Aflonyddwr sy'n tarfu ar yr endocrin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin yn gemegau a all ymyrryd â'r systemau endocrin (neu hormonaidd).[1] Gall yr amharu yma achosi tiwmorau canseraidd, namau geni, ac anhwylderau eraill.[2] Mae'r aflonyddwyr hyn i'w canfod mewn llawer o gynhyrchion cartref ac o fewn diwydiant. Ceir enwau eraill ar yr aflonyddwyr hyn gan gynnwys: asiantau hormonaidd gweithredol,[3] cemegau sy'n tarfu ar endocrin,[4] neu gyfansoddion sy'n tarfu ar endocrin,[5] neu o wybod y cyd-destun: aflonyddwyr endocrin.
Gallant "ymyrryd â synthesis hormonau, chwarenlifau'r hormonau, cludo, rhwymo, gweithredu, neu ddileu hormonau naturiol y corff. Yr hormonau sy'n gyfrifol am ddatblygiad, ymddygiad, ffrwythlondeb a chynnal homeostasis (metaboledd celloedd arferol)."[6]
Gall unrhyw system yn y corff a reolir gan hormonau gael ei chwalu gan aflonyddwyr yr hormonau (hy yr aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin). Yn benodol, gall aflonyddwyr sy'n tarfu ar yr endocrin fod yn gysylltiedig â datblygiad anableddau dysgu, anhwylder diffyg canolbwyntio difrifol, problemau gwybyddol a datblygiad yr ymennydd.[7][8][9][10]
Bu cryn ddadlau ynghylch yr aflonyddwyr endocrin hyn, gyda rhai grwpiau’n galw am weithredu cyflym gan reoleiddwyr i’w tynnu o’r farchnad, a rheoleiddwyr a gwyddonwyr eraill yn galw am astudiaeth bellach.[11] Mae rhai aflonyddwyr endocrin wedi'u hadnabod a'u tynnu o'r farchnad (er enghraifft, cyffur o'r enw diethylstilbestrol), ond mae'n ansicr a yw rhai aflonyddwyr endocrin ar y farchnad mewn gwirionedd yn niweidio bodau dynol a bywyd gwyllt ar y dosau cywir. Tynnwyd papur gwyddonol allweddol, a gyhoeddwyd ym 1996 yn y cyfnodolyn Science, a helpodd i lansio symudiad y rhai oedd yn gwrthwynebu'r syniad o aflonyddwyr endocrin, yn ôl o'r wasg, a chanfuwyd bod ei awdur wedi cyflawni camymddwyn gwyddonol.[12]
Mae astudiaethau ar gelloedd ac anifeiliaid labordy wedi dangos y gall aflonyddwyr endocrin achosi effeithiau biolegol andwyol mewn anifeiliaid, a gall lefel isel hefyd achosi effeithiau tebyg mewn bodau dynol.[13] Gall aflonyddwyr endocrin (a dalfyrir drwy sawl gwlad fel EDC) yn yr amgylchedd hefyd fod yn gysylltiedig â phroblemau atgenhedlu ac anffrwythlondeb mewn bywyd gwyllt a gwaharddiadau a chyfyngiadau ar eu defnydd wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad mewn problemau iechyd ac adferiad rhai poblogaethau bywyd gwyllt.