Baner Saint Barthélemy
From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner swyddogol Saint Barthélemy yw'r tricolor Ffrengig. Mae hyn oherwydd bod Saint Barthélemy, sy'n ynys yn y Caribî yn gymuned hunan-lywodraethol dramor o dan lywodraeth Ffrainc. Ceir hefyd faner answyddogol Saint Barthélemy sy'n cynnwys arfbais yr ynys sy'n canolbwynt ar faes gwyn. Chwifir y ddau faner ar yr ynys. Gelwir yr ynys yn gyffredin ar lafar yn "St Barts" yn Saesneg.