Brian O'Nolan
awdur Gwyddelig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, colofnydd a dychanwr Gwyddelig oedd Brian O'Nolan (Gwyddeleg: Brian Ó Nualláin; 5 Hydref 1911 – 1 Ebrill 1966). Mae’n fwy adnabyddus y tu allan i Iwerddon wrth ei ffugenw Flann O'Brien, sef yr enw a ddefnyddiodd ar nofelau a ysgrifennodd yn Saesneg. Ysgrifennodd yn y Wyddeleg dan y ffugenw Myles na Gopaleen (neu Myles na gCopaleen).
Brian O'Nolan | |
---|---|
Ffugenw | Myles na gCopaleen, Flann O'Brien, Myles na Gopaleen, Brother Barnabas, George Knowall |
Ganwyd | 5 Hydref 1911 Strabane |
Bu farw | 1 Ebrill 1966 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, newyddiadurwr, dramodydd |
Adnabyddus am | At Swim-Two-Birds, The Third Policeman, An Béal Bocht, The Hard Life, The Dalkey Archive |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Strabane, Swydd Tyrone. Roedd ei dad yn swyddog yng ngwasanaeth tollau y Deyrnas Unedig, er ei fod yn gefnogwr i'r achos cenedlaetholgar. Ar ôl i Wladwriaeth Rydd Iwerddon gael ei chreu ym 1921 gweithiodd yng ngwasanaeth tollau Iwerddon, a symudodd y teulu i Ddulyn. Mynychodd Brian ysgolion Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol a Cynulleidfa yr Ysbryd Glan yno, ac wedyn astudiodd yng Coleg Prifysgol Dulyn a dechreuodd ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau myfyrwyr, yn aml dan ffugenwau.
Ym 1935 ymunodd â gwasanaeth sifil Iwerddon, a oedd yn gweithredu polisi y dylai ei swyddogion fod yn anwleidyddol. Cafodd ei ysgogi gan y sefyllfa hon i barhau i ddefnyddio ffugenwau yn ei waith cyhoeddedig, yr oedd llawer ohono yn ddychanol ac yn feirniadol o'r byd yn gyffredinol ac o gymdeithas Wyddelig yn arbennig. Beth bynnag, roedd y ffaith mai'r un person oedd Brian O'Nolan, Flann O'Brien a Myles na gCopaleen yn gyfrinach agored. Er iddo gyrraedd lefel uwch yn y gwasanaeth yn y pen draw fe gafodd ei orfodi i ymddeol o'i swydd ym 1953 wedi iddo fynd yn rhy bell gyda'i feirniadaeth o wleidyddion.
Am ran helaeth o'i oes roedd yn alcoholig, ac yn ei flynyddoedd olaf roedd ei iechyd yn wael. Roedd yn dioddef o ganser y gwddf a bu farw o drawiad ar y galon yn 54 oed.