Bwcarést
Prifddinas Rwmania / From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas Rwmania yw Bwcarést[1] (Rwmaneg: Bucureşti). Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ar afon Dâmboviţa. Gyda phoblogaeth o 2,082,000 yn 2003, hon yw trydydd dinas de-ddwyrain Ewrop o ran poblogaeth, ar ôl Istanbul ac Athen.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | uned ddinesig o fewn Rwmania, prifddinas, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, tref goleg, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 1,716,961 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Nicușor Dan |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rwmania |
Gwlad | Rwmania |
Arwynebedd | 226 km² |
Uwch y môr | 70 metr |
Gerllaw | Afon Dâmbovița |
Yn ffinio gyda | Chiajna, Ciorogârla, Otopeni, Măgurele, Domnești, Chitila, Pantelimon, Popești-Leordeni |
Cyfesurynnau | 44.41336°N 26.09778°E |
Cod post | 010011–062397 |
RO-B | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Bucharest |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bucharest |
Pennaeth y Llywodraeth | Nicușor Dan |
Cau
Ceir y cofnod cyntaf am y ddinas ym 1459. Daeth yn brifddinas Rwmania ym 1862. Rhwng y ddau Ryfel Byd, cyfeirid at y ddinas fel "Paris Fechan" (Micul Paris) neu "Paris y Dwyrain". Ers hynny, dinistriwyd llawer o'r canol hanesyddol, yn gyntaf yn yr Ail Ryfel Byd yna yn naeargryn 1977 a thrwy bolisïau adeiladu Nicolae Ceauşescu.