![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Chongqing%252C_China_ESA23338300.jpeg/640px-Chongqing%252C_China_ESA23338300.jpeg&w=640&q=50)
Chongqing
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o bedair talaith ddinesig Gweriniaeth Pobl Tsieina yw dinas Chongqing neu Chungking (Tsieineeg wedi symleiddio: 重庆市; Tsieineeg traddodiadol: 重慶市; pinyin: Chóngqìng Shì). Saif yng nghanolbarth y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 31,070,000.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
![]() | |
Math | bwrdeistref a reolir yn uniongyrchol, dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ymerawdwr Guangzong o Song ![]() |
Prifddinas | Ardal Yuzhong ![]() |
Poblogaeth | 32,054,159 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Huang Qifan, Hu Henghua ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Onomichi, Addis Ababa, Hiroshima, Incheon, Bangkok, Pekanbaru, Shiraz, Toulouse, Caerlŷr, Düsseldorf, Voronezh, Zaporizhzhia Oblast, Seattle, Detroit, Toronto, Brisbane, Talaith Córdoba, Bissau, Chennai, Chiang Mai, Mpumalanga, Aswan, Sør-Trøndelag, Budapest, Antwerp, Salvador, Zürich, Nuevo León, Phnom Penh, Vladimir, Córdoba, Nakhchivan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Canol Tsieina ![]() |
Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 82,403 km² ![]() |
Uwch y môr | 237 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Yangtze, Afon Jialing, Afon Wu ![]() |
Yn ffinio gyda | Sichuan, Shaanxi, Hubei, Hunan, Guizhou ![]() |
Cyfesurynnau | 29.55°N 106.5069°E ![]() |
Cod post | 400000–409900 ![]() |
CN-CQ ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | People's Government of Chongqing Municipality ![]() |
Corff deddfwriaethol | Chongqing Municipal People's Congress ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Huang Qifan, Hu Henghua ![]() |
![]() | |
Cau
Chongqing yw'r fwyaf o daleithiau dinesig Tsieina o ran poblogaeth, gan ymestyn am gryn bellter o amgylch dinas Chongqing ei hun, sydd a phoblogaeth o tua 5 miliwn. Saif ar Afon Yangtze. Hyd 1997 roedd yn rhan o dalaith Sichuan. Heblaw dinas Chongqing ei hun, mae'r dalaith yn cynnwys dinasoedd Dazu, Jiangjin, Nanchuan a Wan Xian.
O 1937 hyd 1945, Chongqing oedd prifddinas Tsieina Kwomintang, wedi i Nanking gael ei chipio gan y Siapaneaid.