Clueless (ffilm)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm gomedi Americanaidd yw Clueless (1995). Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel Jane Austen Emma ond lleolir y ffilm mewn ysgol uwchradd yn Beverley Hills. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Amy Heckerling a chafodd ei chynhyrchu gan Scott Rudin. Rhyddhawyd y ffilm yn Unol Daleithiau America ar yr 19eg o Orffennaf, 1995. Mae'n serennu Alicia Silverstone, Paul Rudd, Jeremy Sisto, Stacey Dash, Donald Faison, Brittany Murphy a Dan Hedaya.
Ffeithiau sydyn Poster y Ffilm, Cyfarwyddwr ...
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Amy Heckerling |
Cynhyrchydd | Scott Rudin Twink Caplan |
Ysgrifennwr | Amy Heckerling |
Serennu | Alicia Silverstone Dan Hedaya Paul Rudd Stacey Dash Brittany Murphy Donald Faison Wallace Shawn Twink Caplan |
Sinematograffeg | Bill Pope |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 19 Gorffennaf, 1995 |
Amser rhedeg | 97 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb |
Cau
Bellach, mae gan y ffilm, a oedd mewn nifer o ffyrdd yn adlewyrchu'r genhedlaeth a bortreadwyd ynddi, statws eiconig o fewn ei genre ac arweiniodd at gyfres deledu a llyfrau.