Dŵr
yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear yw dŵr, gyda thua 70% o arwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio gan yr hylif ar ffurf cefnforoedd, moroedd, afonydd, llynnoedd a'r pegynnau iâ.
Ocsigen a hydrogen yw'r cyfansoddyn hwn, gyda'r fformiwla gemegol: H2O. Dŵr wedi'i rewi yw iâ; ager yw anwedd dŵr.
Mae'r corff dynol yn cynnwys rhywle rhwng 55% a 78% o ddŵr, yn dibynnu ar faint y corff hwnnw.[1] Pan mae'r corff dynol yn derbyn dŵr drwy'r ceg fe â'i i’r stumog cyn mynd i mewn i’r gwaed ac oddi yno i’r celloedd cyn diweddu yn yr arenau fel troeth. Er mwyn gweithio'n iawn, mae'r corff angen rhwng un a saith litr o ddŵr pob dydd gyda'r union faint yn dibynnu ar sawl ffactor: pa mor weithgar yw'r corff, tymheredd y corff, lleithder yr amgylchedd o'i gwmpas ayb. Drwy fwyta ac yfed mae'r corff yn derbyn y dŵr hwn. Mae'r farn gyffredinol yn mynnu fod rhwng 6 - 7 gwydriad o ddŵr yn lleiafswm y dylid ei yfed.[2]