Defnyddiwr:Llywelyn2000/Pwll Tywod
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Robert Nesta Marley OM (6 Chwefror 1945 - 11 Mai 1981) yn ganwr reggae o Jamaica, yn gitarydd ac yn gyfansoddwr caneuon byd enwog. Caiffl ei ystyried yn un o arloeswyr y genre reggae, a chyfunodd elfennau o reggae, ska, a rocksteady yn ei gerddoriaeth; daeth yn enwog am ei arddull lleisiol a chyfansoddi unigryw.[1][2] Daeth a cherddoriaeth Jamaica i'r amlwg ledled y byd.[3][4] Yn ystod ei yrfa, daeth Marley yn adnabyddus fel eicon Rastaffaraidd, a thrwythodd ei gerddoriaeth ag ymdeimlad o ysbrydolrwydd.[5]
Mae hefyd yn cael ei ystyried yn symbol byd-eang o gerddoriaeth a diwylliant Jamaica a hunaniaeth pobl, a chefnogodd, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ddiwygiadau cymdeithasol heddychol yn ei wlad.[6][7] Roedd hefyd yn cefnogi cyfreithloni canabis, ac yn eiriol dros Traws-Affricaniaeth.[8] Ym 1976, cafwyd ymgais i'w lofruddio yn ei gartref, ymgais wleidyddol, yn fwy na thebyg.[9]
Yn enedigol o Nine Mile, Jamaica, dechreuodd Marley ei yrfa gerddorol broffesiynol ym 1963, ar ôl ffurfio’r grŵp Teenagers gyda Peter Tosh a Bunny Wailer, a fyddai, ar ôl sawl newid enw, yn dod yn Wailers. Rhyddhaodd y grŵp ei albwm stiwdio gyntaf The Wailing Wailers ym 1965, a oedd yn cynnwys y sengl "One Love", a oedd yn ail-bobiad o "People Get Ready"; daeth y gân yn boblogaidd ledled y byd, a sefydlwyd y grŵp dros nos fel prif fand reggae.[10] Yn dilyn hyn, rhyddhaodd The Wailers 11 albwm stiwdio ychwanegol, ac ar ôl arwyddo i Island Records, newidiwyd enw'r band i Bob Marley and the Wailers. Wrth ddefnyddio offerynau uchel eu sain a chanu uwch i ddechrau, dechreuodd y grŵp gymryd rhan mewn adeiladu caneuon rhythmig yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar, a oedd yn cyd-daro â throsiad Marley i Rastafariaeth. Tua'r amser hwn, ac oherwydd perygl i'w fywyd, symudodd Marley i Lundain. Ymgorfforodd y grŵp eu sifft gerddorol yn eu halbwm The Best of The Wailers (1971).
Dechreuodd y grŵp gael sylw rhyngwladol ar ôl arwyddo i Island, gan deithio i hybu'r albymau Catch a Fire a Burnin' (y ddau yn 1973). Yn dilyn diddymu'r Wailers flwyddyn yn ddiweddarach, parhaodd Marley i ganu o dan enw'r band.[11] Cafodd yr albwm Natty Dread (1974) dderbyniad cadarnhaol. Yn 1975, yn dilyn poblogrwydd byd-eang fersiwn Eric Clapton o "I Shot the Sheriff" gan Marley,[12] tdaeth Marley i enwogrwydd rhyngwladol gyda'i hit cyntaf y tu allan i Jamaica, pan gyhoeddwyd y fersiwn fyw o "No Woman, No Cry", ar yr albwm Live! [13] Dilynwyd hyn gan ei albwm arloesol yn yr Unol Daleithiau, Rastaman Vibration (1976), a gyrhaeddodd 50 Uchaf y Billboard Soul Charts.[14] Ychydig fisoedd ar ôl rhyddhau Rastaman Vibration, goroesodd Marley ymgais i'w lofruddio yn ei gartref yn Jamaica, ymgais a ysgogodd ef i adleoli'n barhaol i Lundain, lle recordiodd yr albwm Exodus, a oedd yn ymgorffori elfennau o'r felan, soul, a roc Prydeinig, a chafodd lwyddiant masnachol ysguboll. Ym 1977, cafodd Marley ddiagnosis o felanoma lentiginous acral ar ei droed; bu farw o ganlyniad i'r afiechyd yn 1981, yn fuan ar ôl ei fedyddio i Eglwys Uniongred Ethiopia. Mynegodd ei gefnogwyr ledled y byd eu galar, a derbyniodd angladd genedlaethol yn Jamaica.
Rhyddhawyd yr albwm fwyaf, sef Legend ym 1984, a daeth yn albwm reggae a werthodd fwyaf erioed.[15] Mae Marley hefyd yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed, gydag amcangyfrif y gwerthiant yn fwy na 75 miliwn o recordiau ledled y byd.[16] Cafodd ei anrhydeddu gan Jamaica yn fuan ar ôl ei farwolaeth pan roddwyd iddo Urdd Teilyngdod. Ym 1994, ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl. Gosododd y cylchgrawn Rolling Stone ef yn rhif 11 ar ei restr o'r 100 Artist Mwyaf erioed. a Rhif 98 ar ei restr o'r 200 o Gantorion Mwyaf erioed. Mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys Gwobr Grammy Lifetime Achievement Award, seren ar y Hollywood Walk of Fame, a chyflwyniad i'r Black Music & Entertainment Walk of Fame.
![Exterior of Bob Marley's apartment building in London.](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/03/Bob_Marley_apartment_in_London.jpg/640px-Bob_Marley_apartment_in_London.jpg)