Ellen DeGeneres
actores a aned yn 1958 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, digrifwraig a chyflwynydd teledu Americanaidd yw Ellen Lee DeGeneres (ganwyd 26 Ionawr 1958). Mae hi wedi ennill Gwobr Emmy deuddeg gwaith ac mae'n cyflwyno The Ellen DeGeneres Show.
Ellen DeGeneres | |
---|---|
Ganwyd | Ellen Lee DeGeneres 26 Ionawr 1958 Metairie, Louisiana, Louisiana |
Man preswyl | New Orleans, Atlanta, Beverly Hills |
Label recordio | eleveneleven |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd, sgriptiwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd sioe siarad, cynhyrchydd teledu, digrifwr, actor teledu, ysgrifennwr, actor ffilm, actor llais, gweithredwr dros hawliau LHDTC+ |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Ellen DeGeneres Show, Ellen, Finding Nemo, Finding Dory |
Arddull | opera, dychan, comedi dywyll, gwrth-hiwmor, deadpan, Clean comedy, digrifwch swreal |
Prif ddylanwad | Woody Allen, Steve Martin, Lucille Ball, Carol Burnett |
Taldra | 171 centimetr |
Tad | Elliott Everett DeGeneres Jr. |
Mam | Betty DeGeneres |
Priod | Portia de Rossi |
Partner | Anne Heche, Alexandra Hedison |
Perthnasau | Thomas Fairfax |
Gwobr/au | Gwobr Sadwrn am yr Actores Gefnogol Orau, Daytime Emmy Award for Outstanding Talk Show, Daytime Emmy Award for Outstanding Talk Show Entertainment, Daytime Emmy Award for Outstanding Talk Show Host, American Comedy Awards, Gwobrau Teen Choice, Annie Award for Voice Acting in a Feature Production, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Women in Film Crystal + Lucy Awards, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Annie, Gwobr Genesis, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Lucy, Primetime Emmy Award for Outstanding Writing for a Comedy Series, GLAAD Stephen F. Kolzak Award, Satellite Award for Best Actress – Television Series Musical or Comedy, Annie Award for Voice Acting in a Feature Production |
Gwefan | https://www.ellentube.com |
llofnod | |
Cyflwynodd seremoni Gwobrau'r Academi a'r Emmys. Fel actores ffilm, serennodd yn Mr. Wrong, a darparodd y llais ar gyfer cymeriad Dory yn ffilm animeiddiedig Pixar, Finding Nemo. Serennodd mewn dau gomedi sefyllfa hefyd, Ellen o 1994 tan 1998 ac The Ellen Show o 2001 tan 2002. Ym 1997, yn ystod y bedwaredd gyfres o Ellen, daeth Ellen allan yn gyhoeddus fel lesbiad tra'n cael ei chyfweld gan Oprah Winfrey. Yn fuan wedi hyn, daeth ei chymeriad yn y rhaglen gomedi Ellen Morgan allan i'w therpaydd, a oedd yn cael ei chwarae gan Oprah Winfrey. Aeth y gyfres yn ei blaen i edrych ar faterion LHDT gwahanol, yn ogystal â'r broses o ddod allan.