Ginger Rogers
actores / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores a seren Hollywood oedd Ginger Rogers (16 Gorffennaf 1911 – 25 Ebrill 1995). Enillodd yr Oscar am yr Actores Orau am ei rôl yn Kitty Foyle (1940).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ginger Rogers | |
---|---|
Ganwyd | Virginia Katherine McMath 16 Gorffennaf 1911 Independence, Missouri |
Bu farw | 25 Ebrill 1995 o trawiad ar y galon Rancho Mirage |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, dramodydd, dawnsiwr, actor llwyfan, actor teledu, canwr, ysgrifennwr, actor |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth bop, draddodiadol |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Eddins McMath |
Mam | Lela E. Rogers |
Priod | Lew Ayres, Jacques Bergerac, William Marshall, Jack Pepper, Jack Briggs |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Anrhydedd y Kennedy Center, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
llofnod | |
Cau
Cafodd ei geni yn Independence, Missouri, gyda'r enw Virginia Katherine McMath, yn ferch i'r peiriannydd William Eddins McMath a'i wraig Lela Emogene (née Owens). Priododd y difyrrwr Jack Pepper ym 1929 gan ysgaru ym 1931. Priododd yr actor Lew Ayres yn 1934 (ysgaru 1941); Jack Briggs ym 1943 (ysgaru 1949); yr actor Ffrengig Jacques Bergerac ym 1953 (ysgaru 1957); a'r difyrrwr William Marshall yn 1961 (ysgaru 1969). Credir ei bod yn gyn-gariad i'r biliwnydd Howard Hughes.