Gwylys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Perlysieuyn parhaol o deulu'r pys yw gwylys (Glycyrrhiza glabra). Mae'n frodorol i'r Dwyrain Canol a De Ddwyrain Ewrop, ger arfordir Môr y Canoldir. Tyfir i dynnu'r sudd melys a elwir yn licris o'i wraidd.
Gwylys | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Is-deulu: | Faboideae |
Llwyth: | Galegeae |
Genws: | Glycyrrhiza |
Rhywogaeth: | G. glabra |
Enw deuenwol | |
Glycyrrhiza glabra L.[1] | |
Cyfystyron | |
|
Mae'r gwylys yn tyfu dros 0.9 m (3 troedfedd), ac uwchben y ddaear mae ganddo goesynnau hirion a dail adeiniog sy'n cynnwys 9 i 17 o ddeilios, a blodau gleision sy'n cynhyrchu codennau sy'n cynnwys 3 neu 4 hedyn. Mae gwreiddiau'r planhigyn yn rhwydwaith dwfn o risomau.[2]
Tyfir y planhigyn am 3 i 5 flynedd cyn ei gynaeafu. Caiff y gwreiddiau a'r rhisomau eu glanhau, eu gwasgu'n fwydion, a'u berwi ac yna fe grynhoir y sudd licris drwy broses anweddu. Tyfir gwylys heddiw yn Rwsia,[2] De Ewrop a'r Unol Daleithiau.[3] Fe'i dyfir ym Mhrydain ers yr 16g pan gafodd ei dyfu gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog.[2]
Mae ganddo flas chwerwfelys cryf sy'n debyg i anis a ddaw o'r sylwedd glysyrhisin,[3] ac arogl melys. Yn y gegin, defnyddir gwylys i wneud melysion megis licris cymysg a theisenni Pontefract, i flasu Guinness, sambwca a chyrfau a gwirodlynnau eraill a diodydd ysgafn. Yn y fferyllfa mae ei arogl cryf a'i flas neilltuol o fudd wrth gelu blasau cas y moddion, er enghraifft mewn surop peswch a losin gwddf.[2] Defnyddir hefyd i drin wlseri peptig a chlefyd Addison.[3]