Grŵp gweithredol
From Wikipedia, the free encyclopedia
O fewn i gemeg organig, y grŵp gweithredol yw'r grŵp o atomau o fewn moleciwl sy'n gyfrifol am ymddygiad a nodweddion y moleciwl. Mae'r grŵp gweithredol gan amlaf yn ymddwyn yn debyg beth bynnag yw maint y moleciwl mae'n rhan ohono. Fodd bynnag, gall adweithedd ac ymddygiad y moleciwl newid gyda grwpiau gweithredol cyfagos.
Ychwanegir enwau'r grŵpiau gweithredol at enwau'r rhiant-alcanau er mwyn enwi cyfansoddion organig.