Gwlad yr Iâ
ynys a gweriniaeth sofran yng Ngogledd Ewrop / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Ísland | |
Arwyddair | Inspired by Iceland |
---|---|
Math | ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Iâ |
Prifddinas | Reykjavík |
Poblogaeth | 364,260 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Lofsöngur |
Pennaeth llywodraeth | Bjarni Benediktsson |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Islandeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop, Y Gwledydd Nordig |
Arwynebedd | 103,004 km² |
Yn ffinio gyda | Yr Ynys Las, Ynysoedd Ffaröe, Svalbard |
Cyfesurynnau | 65°N 19°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad yr Iâ |
Corff deddfwriaethol | Alþingi |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gwlad yr Iâ |
Pennaeth y wladwriaeth | Guðni Jóhannesson |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad yr Iâ |
Pennaeth y Llywodraeth | Bjarni Benediktsson |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $25,553 million, $27,842 million |
Arian | Icelandic króna |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.93 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.959 |
Cau
Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.
Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.