Cestoda
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cestodau (neu lyngyr ar lafar gwlad) yn barasit di-asgwrn-cefn sy'n byw yn y coluddyn ac felly'n endobarasitiaid. Mae ganddynt gorff hirfain, meddal. Does ganddynt ddim coesau na llygaid fel rheol. Mae'r enw yn cyfeirio yn arbennig at rywogaethau sy'n byw ym mherfedd anifeiliaid a phobl, ond mae nifer o grwpiau eraill a elwir hefyd yn lyngyr.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol ...
Cestoda Amrediad amseryddol: 270–0 Miliwn o fl. CP[1] | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Platyhelminthes |
Dosbarth: | Cestoda |
Cau
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Safle tacson ...
Delwedd:Taenia saginata adult 5260 lores.jpg, Taenia solium scolex.JPG Taenia saginata | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | dosbarth |
Rhiant dacson | Llyngyren ledog |
Dechreuwyd | Mileniwm 271. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gall y llyngyren drosglwyddo i fodau dynol oddi wrth anifeiliaid a gelwir afiechyd neu gyflwr y gellir ei drosglwyddo i fodau dynol gan anifeiliaid yn swnosis; caiff ei drosglwyddo drwy fwyd neu ddŵr heintiedig neu drwy gysylltiad ag ymgarthion dynol neu anifeiliaid. Os bydd coluddion person yn cael ei heintio gan lyngyren yn ei llawn dwf, bydd angen triniaeth ar yr unigolyn.[2]