Micromedr
teclyn ar gyfer mesur trwch neu led pethau bach / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais a ddefnyddir mewn peirianneg fecanyddol i wneud mesuriadau manwl gywir o gydrannau yw micromedr. Mae yna lawer o wahanol fathau, yn dibynnu ar yr union dasg wrth law – e.e. i fesur trwch, dyfnder, diamedr mewnol, diamedr allanol, ayyb – ond maen nhw i gyd yn defnyddio edau sgriw i wneud addasiadau mân.
- Micromedr i fesur trwch neu ddiamedr allanol
- Micromedrau i fesur diamedrau mewnol
- Micromedr i fesur dyfnder
- Mae'r erthygl hon yn trafod y teclyn mesur. Am y raddfa fesur gweler Micrometr.