![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Model_Posing_On_Typical_Studio_Set.jpg/640px-Model_Posing_On_Typical_Studio_Set.jpg&w=640&q=50)
Model
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae model yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn celf, ffasiwn neu hysbysebu a chynhyrchion eraill. Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc. Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel actio, dawnsio neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn ffilm yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rôl ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion. Ceir gwahanol fathau o fodelu gan gynnwys glamor, ffasiwn, bicini, celf-fanwl a modelau rhannau o'r corff. Mae rhai modelau yn modelu'n noeth, er mwyn celf neu adloniant. Nid yw pob model yn brydferth: mae modelau cymeriad yn portreu pobl gyffredin neu ddoniol, ac fe'u gwelir gan amlaf mewn gwaith print ac mewn hysbysebion.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Model_Posing_On_Typical_Studio_Set.jpg/640px-Model_Posing_On_Typical_Studio_Set.jpg)