Pantheon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Teml, a drowyd yn eglwys, yn Rhufain yw'r Pantheon (Lladin Pantheon, o'r Groeg Πάνθεον Pantheon, yn golygu "Teml yr holl dduwiau"). Adeiladwyd y Pantheon fel teml i saith duw y saith planed yng ngrefydd wladwriaethol Rhufain. Mae'n parhau mewn cyflwr da, wedi ei gadw'n well nag unrhyw adeilad Rhufeinig arall ac efallai'n well nag unrhyw adeilad arall o'i oed yn y byd.
Math | teml Rufeinig, safle archaeolegol Rhufeinig, atyniad twristaidd, basilica minor, secularized religious building, adeilad Rhufeinig, amgueddfa grefyddol, Italian national museum, archaeological artifact museum, historical civil building museum, Q124830411 |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pigna |
Sir | Rhufain |
Gwlad | yr Eidal |
Arwynebedd | 2,000 m², 1,500 m² |
Cyfesurynnau | 41.8986°N 12.4769°E |
Cod post | 00186 |
Hyd | 35 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Deunydd | concrit |
Esgobaeth | Esgobaeth Rhufain |
- Am ystyron eraill, gweler Pantheon (gwahaniaethu)
Adeiladwyd yr adeilad presennol ar seiliau adeilad blaenorol, a godwyd gan Agrippa tua 27 CC. Llosgwyd yr adeilad hwn yn 80 OC., a thua 117 dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad newydd. Nid oes sicrwydd pwy oedd y prif bensaer, ond credir mai pensaer yr ymerawdwr Trajan, Apollodorus o Ddamascus, ydoedd. Gorffennwyd y gwaith tua 125 OC, yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr nesaf, Hadrian.
Ers cyfnod y Dadeni, mae wedi ei ddefnyddio fel man claddu i nifer o bobl enwog, yn arbennig yr arlunydd Raffael. Mae dau o frenhinoedd yr Eidal, Vittorio Emanuele II a Umberto I, wedi eu claddu yno hefyd.