Park Güell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Parc cyhoeddus o erddi ac elfennau pensaernïol ydy Park Güell (Catalan: Parc Güell) a leolwyd ar Allt Carmelo yn Barcelona, Catalwnia. Mae Allt neu Fryn Carmelo yn un o deulu o fryniau'r Sierra de Collserola sef y Parc del Carmel ac mae ar lethr bychan, yn wynebu'r gogledd ym maestref Gràcia, Barcelona. Gyda'r angen i drefoli'r ddinas, gofynnodd Eusebi Güell i Antoni Gaudí, i gynllunio'r parc ar ffurf ardaloedd preswyl Lloegr, a dyna pam y defnyddiwyd y sillafiad Saesneg "Park" yn hytrach na'r Catalan ("Parc"). Fe'i crewyd rhwng 1900 a 1914 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1926. Yn 1984 fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO dan y teitl "Gweithiau Antoni Gaudí". Yr arddull a ddefnyddiodd yma (ac yn nhrwch gweddil gweithiau Gaudí) yw Modernisme Catalwnia.[1]
Math | sculpture garden, parc, cyrchfan i dwristiaid, cofadeilad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eusebi Güell |
Agoriad swyddogol | 1926 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Works of Antoni Gaudí |
Lleoliad | Barcelona, Gràcia |
Sir | La Salut |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 10.79 ha, 9.4 ha |
Cyfesurynnau | 41.4136°N 2.1528°E |
Arddull pensaernïol | Catalan modernism, Art Nouveau architecture |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, public art in Barcelona, Bé cultural d'interès nacional |
Manylion | |
Mae Park Güell yn perthyn i 'gyfnod naturiol' Gaudí, sef degawd cyntaf yr 20g. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd y pensaer ei arddull unigryw drwy sylwi ac astudio pethau organig byd natur a'u gweithredu o fewn strwythurau peirianeg ac adeiladwaith. Daeth Gaudí a chwa o awyr iach, rhyddid a meddwl newydd, fel artist wrth ei waith, i fyd llawn llinellau syth a diflas yr adeiladydd; daeth hiwmor lle bu confensiwn a rhyddid byw lle bu caethiwed y traddodiad clasurol. Gyda Pharc Güell, am y tro cyntaf, trodd ei syniadau a'i freuddwydion yn strwythurau ymarferol, real ac organig. Yr arddull newydd hwn a aeddfedodd yn ddiweddarach i greu un o bencampweithiau mwya'r byd: y Sagrada Família.
Güell a Gaudí a genhedlodd ar y parc hwn, o fewn parc naturiol gwirioneddol brydferth. Dychmygodd y ddau gasgliad taclus o gartrefi o ansawdd uchel, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf ym mhob un, a fflach o artistri i'w gorffen.[2] Dychmygodd y ddau hefyd symboliaeth yn rhan bwysig oddi fewn i'r gymuned; roeddent yn dymuno cyflwyno delfydau'r oes yn weledol, yn enwedig gwleidyddiaeth y Catalan. Gwelir hyn yng ngrisiau'r fynedfa, ble mae rhanbarthau Catalan wedi'u gosod mewn lle tra phwysig, a Phabyddiaeth - y Monumento al Calvario - a fwriadwyd yn wreiddiol ei defnyddio fel capel. Ceir llawer o elfennau mytholegol, a rhoddir lle blaenllaw i'r rhain hefyd; y prif ysbrydoliaeth i Güell a Gaudí oedd Teml Apollo o Delfos.