Sagrada Família
eglwys yn cael ei hadeiladu yn Barcelona, Catalwnia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwys Gatholig enfawr ydy Basílica i Temple Expiatori de la Sagrada Família ("Basilica a Theml Ddyhuddol y Teulu Sanctaidd"), sydd wedi'i lleoli ym Marcelona, Catalwnia, ac a gynlluniwyd gan y Catalan Antoni Gaudí (1852–1926). Er nad yw wedi'i gorffen, dynodwyd yr eglwys yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[1] Yn Nhachwedd 2010, cysegrwyd yr eglwys gan y Pab Bened XVI gan ei alw'n "Basilica"[2][3][4] yn hytrach nag yn Gadeirlan (neu'n 'Eglwys Gadeiriol') gan nad oes yma esgob.
Math | basilica minor, eglwys ddiofryd, adeilad anorffenedig |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Teulu Sanctaidd |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 46 metr |
Cyfesurynnau | 41.40369°N 2.17433°E |
Hyd | 90 metr |
Arddull pensaernïol | Modernisme, yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural, Bé cultural d'interès nacional, Safle Treftadaeth y Byd |
Cysegrwyd i | y Teulu Sanctaidd |
Manylion | |
Deunydd | carreg, concrit |
Esgobaeth | Roman Catholic Archdiocese of Barcelona |
Cychwynwyd y gwaith adeiladu yn 1882 a daeth Gaudí i'r adwy y flwyddyn wedyn,[5] gan ailwampio'r cyfan yn ei ddull dihafal ei hun a oedd yn cyfuno'r arddulliau Gothic ac Art Nouveau. Rhoddodd ei flynyddoedd diwethaf yn llwyr i'r prosiect hwn, a phan oedd yn 73 yn 1926, roedd llai na chwarter y prosiect wedi'i orffen.[6] Roedd y gwaith yn araf, gan fod y cyfraniadau ariannol hefyd yn araf yn dod i'r coffrau, ac ataliwyd y gwaith yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac nid ailgychwynnwyd y gwaith go iawn tan y 1950au. Yn 1910 roedd hanner y gwaith wedi'i orffen. Erbyn 2014 roedd yr eglwys yn denu dros 2.5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.[7] Gobeithir gorffen y gwaith ar ganmlwyddiant marwolaeth Gaudí yn 2026.
Rhannwyd trigolion Barcelona dros y blynyddoedd gan y Sagrada Família; credai rhai ei fod yn mynd i gystadlu gyda'r Eglwys Gadeiriol, sef y Santa Eulalia. Roedd cynlluniau chwyldroadol Gaudí hefyd yn asgwrn sawl cynnen, a'r cweryl diweddar ynghylch twnnel yn cludo rheilffordd tanddaearol gerllaw.[8]
Dywedodd y beirniad celf Rainer Zerbst, "O archwilio holl waith celf y byd dros y canrifoedd, mae'n gwbwl amhosibl darganfod unrhyw waith tebyg i hwn."[9] a galwyd yr adeilad gan Paul Goldberger yn "The most extraordinary personal interpretation of Gothic architecture since the Middle Ages."[10]