Siôn Blewyn Coch (ffilm)
ffilm / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm wedi'i hanimeiddio a ddarlledwyd yn gyntaf ar S4C ym 1986 yw Siôn Blewyn Coch. Prif gymeriad y ffilm yw Siôn Blewyn Coch, llwynog dychmygol a ymddangosodd yn gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant yn y tridegau. Bu'r ffilm yn llwyddiant ysgubol a hynny pan oedd y sianel yn dal i fod yn gymharol ifanc. Ailddarlledwyd y ffilm droeon ar Slot Meithrin yn 1990au a Planed Plant Bach yn 2004 ar S4C ers hynny, a'i chyfieithu hefyd i ieithoedd eraill.
Ffeithiau sydyn Siôn Blewyn Coch, Genre ...
Siôn Blewyn Coch | |
---|---|
Genre | Animeiddio Plant |
Cyfarwyddwyd gan | David Edwards |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Robin Lyons |
Golygydd | Terry Brown |
Amser rhedeg | 22 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Planed Plant Bach (Slot Meithrin a Clwb S4C) (gynt) Slot Meithrin (1990au) Planed Plant Bach (25 Rhagfyr 2004) |
Darllediad gwreiddiol | 29 Rhagfyr 1986 |
Cau