Tombouctou
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tombouctou (neu Timbuktu) yn ddinas hynafol yn nwyrain canolbarth Mali sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | dinas, ardal drefol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 35,330 ![]() |
Cylchfa amser | UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Tombouctou ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 14,789 ha ![]() |
Uwch y môr | 261 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 16.773333°N 2.999444°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Cau
Mae'n gorwedd ar lannau Afon Niger.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Tombouctou yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach traws-Saharaidd. Roedd yn enwog yn y byd Islamaidd a thu hwnt am ei phrifysgol a'i llyfrgelloedd niferus a denai ysgolheigion o bob cwr o'r byd Islamaidd a'r tu hwnt. Mae pensaernïaeth hynod yr hen ddinas â'i hadeiladau pridd caled a phren yn nodweddiadol o'r rhanbarth. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dd/Djingareiber_cour.jpg/640px-Djingareiber_cour.jpg)