Ymerawdwr Glân Rhufeinig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymerawdwr Glân Rhufeinig oedd y teitl a roddid i reolwyr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yng nghanolbarth Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar. Yn draddiodiadol ystyrir mai Siarlymaen, breinin y Ffranciaid, oedd yr ymerawdwr cyntaf. Coronwyd ef yn Ymerawdwr y Gorllewin gan y Pab Leo III ar 25 Rhagfyr 800. Yn 1508, ac wedyn yn barhaol wedi 1556, cymerodd y brenin y teitl "Ymerawdwr etholedig", heb deithio i Rufain i’w goroni gan y Pab. Ymddiswyddodd yr ymerawdwr olaf, Ffransis II, yn 1806.