![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/British_Empire_1897.jpg/640px-British_Empire_1897.jpg&w=640&q=50)
Yr Ymerodraeth Brydeinig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr Ymerodraeth Brydeinig oedd yr ymerodraeth ehangaf a welwyd yn hanes y byd. Am ddwy ganrif roedd yn tra-arglwyddiaethu dros weddill y byd. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yng ngoresgyniad y gwledydd Celtaidd gan Loegr a thwf grym morwrol y wlad honno o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen. Tramor sefydlai'r Saeson nifer o drefedigaethau - rhai cymharol bychain i ddechrau - mewn cystadleuaeth â gwledydd Ewropeaidd eraill yn "Oes y Darganfod" yn Ewrop, o'r 15g ymlaen. Roedd gan Ffrainc, Portiwgal, Yr Iseldiroedd a Sbaen eu tiriogaethau tramor hefyd, ond yn ystod y 18g tyfodd y Brydain Fawr newydd i feddiannu mwy na'r lleill i gyd, trwy rym arfau neu gytundebau economaidd.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1997 ![]() |
Label brodorol | British Empire ![]() |
Poblogaeth | 680,000,000 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1583 ![]() |
![]() | |
Rhagflaenydd | English overseas possession ![]() |
Enw brodorol | British Empire ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
Erbyn 1921 roedd yr Ymerodraeth yn rheoli poblogaeth o tua 458 miliwn o bobl, sef o gwmpas chwarter poblogaeth y byd ar yr adeg honno. Roedd tua 33 miliwn km² (14.2 miliwn milltir sgwar) yn goch ar y map, o gwmpas chweched ran o arwynebedd y Ddaear.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/British_Empire_1897.jpg/640px-British_Empire_1897.jpg)