Łowicz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yng nghanolbarth Gwlad Pwyl yw Łowicz [ˈwɔvʲitʂ] ("Wofitsch") gyda 28,811 o drigolion (2016).[1] Mae wedi ei leoli yn Nhalaith Lódź, 'województwo lódzkie' (ers 1999); cyn hyn, arferai fod yn yn Nhalaith Skierniewice (1975-1998). Ynghyd a'r orsaf Bednary gerllaw, mae'r orsaf yn Łowicz yn un o brif orsafedd cyffordd reilffordd ganolog Gwlad Pwyl, lle bydd y rheilffordd o Warsaw (Warszawa) yn rhannu i ddau gyfeiriad - tuag at Poznań, a Łódź. Hefyd, mae'r prif orsaf yn Łowicz gyda chysylltiadau i reilffordd eilradd i Skierniewice.
Math | urban municipality of Poland |
---|---|
Poblogaeth | 26,928 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lubliniec, Shepetivka, Reda |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Łowicz |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 23.41 km² |
Cyfesurynnau | 52.1°N 19.93°E |
Cod post | 99-400 |
Łowicz oedd preswylfa'r archesgobion yn y Gymanwlad Pwyleg-Lithwaneg. Gwasanaethant fel rhaglywiaid pan ddaeth y dref yn "brif ddinas" dros dro o Wlad Pwyl yn ystod y rhyngdeyrnasiad. O ganlyniad, er gwaethaf maint sylweddol fychan y ddinas mae gan Łowicz ei hesgob a basilica ei hun. Mae adfeilion hen gas tell yr esgob i'w gweld ar gyrion y dref. Credir fod Napoleon Bonaparte wedi aros mewn un o'r tai ar brif sgwâr y ddinas. Hefyd, roedd y ddinas yn ganolbwynt mwyaf ymosodiad yr Almaen yng ngoresgyniad Gwlad Pwyl, sef Brwydr yr Afon Bzura yn ymgyrch agoriadol yr Ail Ryfel Byd.
Mae gan Łowicz amgueddfa ethnograffig bwysig (Muzeum w Łowiczu) sydd yn arddangos celf Pwyleg ac arteffactau hanesyddol o'r rhanbarth. Hefyd yn Łowicz y ceir 'skansen' sef amgueddfa o adeiladau a ffordd o fyw traddodiadol, gyda'i tai pren nodweddiadol a thraddodiadol. Mae'n arddangosfa awyr agored helaeth yn arddangos strwythurau hanesyddol yn dangos bywyd traddodiadol pentrefol Pwyleg a chasgliad o arteffactau ar safle tros 17 hectar (42 erw), ar yrrion y ddinas.[2] Mae gan Łowicz dam pêl-droed a elwir yn Pelikan, sy'n nychu yn yr is-adrannau o gynghreiriau pêl-droed y wlad.
Ger y dref mae Pont Maurzyce, sef y ffordd-bont gyntaf yn y byd a gafwyd ei weldio, a adeiladwyd yn 1928 ar draws yr afon Słudwia. Fe'i cynlluniwyd yn 1927 gan Stefan Bryła gannwyd yn Nghrakóv 17 Awst 1886, bu farw'n Warsaw 3 Rhagfyr 1943, peirianydd adeiladu a weldiwr arloesol o Brifysgol Technoleg Lwów .[3]