Asbrin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae asbrin (hefyd aspirin), neu asid acetylsalicylic (ASA), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen, twymyn neu lid. Ymysg y cyflyrau llidiol penodol y mae asbrin yn cael eu defnyddio ar eu cyfer mae'r afiechyd Kawasaki, pericarditis, a thwymyn riwmatig. Gall asbrin, o'i roi i glaf yn fuan ar ôl trawiad ar y galon, leihau'r risg o farwolaeth. Defnyddir asbrin hefyd fel meddyginiaeth reolaidd tymor hir i helpu i atal trawiad ar y galon, strôc isgemig, a chlotiau gwaed mewn pobl sydd â risg uchel. Gall hefyd leihau'r risg o rai mathau o ganser, yn enwedig canser y colon a'r rectwm.
Delwedd:Acetylsalicylicacid-crystals.jpg, Aspirin.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 180.042 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₉h₈o₄ |
Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, llid, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, gout attack, twymyn gwynegon, acute myocardial infarction, clefyd y galon, ffibriliad atrïaidd, acute coronary syndrome |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Label brodorol | Acidum acetylsalicylicum |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen |
Enw brodorol | Acidum acetylsalicylicum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aspirin | |

Ar gyfer poen neu dwymyn, mae effaith asbrin, fel arfer, yn dechrau o fewn 30 munud. Mae asbrin yn gyffur gwrthlid ansteroidal (NSAID) ac mae'n gweithio'n debyg i NSAIDau eraill ond hefyd yn atal gweithrediad arferol platennau.[1]