![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/Praia_de_Bares_4IX2015.jpg/640px-Praia_de_Bares_4IX2015.jpg&w=640&q=50)
Bae Bizkaia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Bizkaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Acwitania. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).
![]() | |
Math | bae ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bizkaia, Gasgwyn ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Gwlad | Ffrainc, Sbaen ![]() |
Arwynebedd | 223,000 km² ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 45.5°N 4.4°W ![]() |
![]() | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f9/Bay_of_Biscay_from_Terra_%282004-05-17%29.jpg/640px-Bay_of_Biscay_from_Terra_%282004-05-17%29.jpg)
Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen.
Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir brwyniaid, cod, tiwna a sardîns.