From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Colwyn[1][2] (Saesneg: Colwyn Bay). Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Math | tref, cymuned, cyrchfan lan môr |
---|---|
Poblogaeth | 10,981, 10,369 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 779.57 ha |
Cyfesurynnau | 53.29°N 3.7°W |
Cod SYG | W04000113 |
Cod OS | SH865785 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn Ebrill 1974 roedd Bae Colwyn yn fwrdeistref ddinesig yn yr hen Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o tua 25,000, ond yn 1974 ddiddymwyd yr hen awdurdod i adael pum cymuned (seiledig ar y plwyfi). Mae gan Bae Colwyn yn ôl y diffiniad hwnnw boblogaeth o 9,742 (2001). Poblogaeth y cymunedau eraill a fu'n rhan o'r hen fwrdeistref yw Mochdre (1,862), Llandrillo-yn-Rhos (7,110), Hen Golwyn (7,626) a Llysfaen (2,652). Erbyn heddiw mae'r pum plwyf yn un ardal drefol mewn gwirionedd, gyda phoblogaeth o 30,265 o bobl (2001), yr uchaf yng ngogledd Cymru ac eithrio Wrecsam.
Cnewyllyn y dref oedd Hen Golwyn ('Colwyn' yn wreiddiol) a Llysfaen i'r dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i'r gorllewin; tyfodd y dref rhwng y ddau le hynny (sy'n rhan o Fae Colwyn o safbwynt llywodraeth leol). Fel yn achos Llandudno a'r Rhyl, tyfodd Bae Colwyn yn gyflym yn ail hanner y 19g, yn sgîl dyfodiad y rheilffordd yn 1848, a dechrau'r 20g fel tref gwyliau glan môr hawdd i'w chyrraedd o drefi poblog gogledd-orllewin Lloegr.
Roedd y dref yn sir Clwyd hyd 1996, a bu'n rhan o'r Sir Ddinbych hanesyddol hyd 1974.
Mae'r dref wedi dioddef problemau cymdeithasol ers y 1980au gyda nifer o bobl ddiwaith o ogledd Lloegr symud i mewn a'r canran hŷn o'r boblogaeth gynyddu ar yr un pryd wrth i bobl symud yno ar ôl ymddeol.
Lleolir Theatr Colwyn yn y dref. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu.
Ar gyrion y Bae ceir Parc Eirias, gyda Phwll Nofio a meysydd chwarae.
Gwasanaethir ardal Bae Colwyn gan ddwy ysgol uwchradd, sef:
Mae nifer o ddisgyblion yr ysgolion hyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo Cymru, yn Llandrillo-yn-Rhos.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn ym 1910, 1941 (Hen Golwyn) a 1947. Am wybodaeth bellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bae Colwyn (pob oed) (10,981) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bae Colwyn) (1,897) | 17.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bae Colwyn) (5454) | 49.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bae Colwyn) (1,833) | 39.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.