![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ee/Baldwinofexeterstatuecanterburycatheraloutside.jpg/640px-Baldwinofexeterstatuecanterburycatheraloutside.jpg&w=640&q=50)
Baldwin, Archesgob Caergaint
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prelad o Sais o dras Normanaidd oedd Baldwin, Archesgob Caergaint (c. 1125 – 19 Tachwedd 1190). Fe'i ganwyd yng Nghaerwysg, Dyfnaint, i deulu mewn amgylchiadau digon cyfyng. Cafodd ei benodi yn esgob Caerwrangon yn 1180 ac yna'n archesgob Caergaint yn 1184. Coronodd y brenin Rhisiart I o Loegr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Baldwin, Archesgob Caergaint | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1125 ![]() Caerwysg ![]() |
Bu farw | 19 Tachwedd 1190 ![]() Teyrnas Jeriwsalem ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | abad, Roman Catholic Archbishop of Canterbury, esgob esgobaethol ![]() |
Cau
Mae Baldwin yn fwyaf adnabyddus yng Nghymru am iddo deithio yng nghwmni Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yng ngwanwyn a haf y flwyddyn 1188. Pwrpas swyddogol y daith enwog honno oedd i berswadio'r Cymry a'u cymdogion Normanaidd i fynd ar groesgad i'r Tir Sanctaidd, ond digon tila fu'r ymateb gan y Cymry a Normaniaid hirben. Cafodd Baldwin ei hun ei ladd ym Mhalesteina yn 1190, wedi mynd allan i gefnogi'r Croesgadwyr.