From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Bernhard Schlink (ganwyd 6 Gorffennaf 1944 yn Bielefeld, yr Almaen) yn gyfreithwr ac yn awdur Almaeneg. Daeth ei nofel Der Vorleser, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1995, yn werthwr-gorau rhyngwladol.
Bernhard Schlink | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1944 Bielefeld |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethur mewn Cyfraith |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, barnwr, nofelydd, sgriptiwr, academydd, bardd-gyfreithiwr |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Reader, Flights of love, Q24007898, Q1213328, Q123856863 |
Arddull | nofel |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Tad | Edmund Schlink |
Perthnasau | Basilea Schlink, Klaus Engelhardt |
Gwobr/au | Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Friedrich Glauser, German Crime Fiction Award, Evangelischer Buchpreis, Pak Kyong-ni Prize, Q1596394 |
Gwefan | https://schlink.rewi.hu-berlin.de |
Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog ac yn aelod o'r "Bekennende Kirche" - eglwys Martin Niemöller. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn Giessen am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968.
Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006.
Astudiodd Schlink gyfraith ym Mhrifysgolion Heidelberg a Berlin. Bu wedyn yn athro y gyfraith ym Mhrifysgolion Bonn a Goethe, (Frankfurt) cyn dechrau ym 1992 ym Mhrifysgol Humboldt Berlin.
Dechreuodd ei yrfa fel awdur gyda nifer o nofelau ditectif gyda phrif gymeriad o'r enw Selb-yn chwarae ar y gair Almaeneg am "hunan" - y cyntaf, Selbs Justiz "Hunan Gosb", wedi'i gyd-ysgrifennu â Walter Popp. Enillodd un o'r rhain, Die gordische Schleife, Wobr Glauser yn 1989.
Ym 1995, cyhoeddodd Der Vorleser ("Y Darllenydd"), nofel am fachgen yn ei arddegau yn cael perthynas â menyw yn ei thridegau sy'n yn diflannu; ond y mae'n cyfarfod â hi eto fel myfyriwr cyfraith wrth ymweld â threial am droseddau rhyfel. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau a chyfieithwyd i 39 o ieithoedd. Hwn oedd y llyfr Almaeneg cyntaf i gyrraedd rhif un yn rhestr y New York Times. Yn 1997, enillodd Wobr Hans Fallada, gwobr lenyddol Almaeneg, a'r Prix Laure Bataillon ar gyfer gwaith a gyfieithwyd i Ffrangeg. Yn 1999 dyfarnwyd Welt-Literaturpreis y papur newydd Die Welt iddo.
Yn 2000, cyhoeddodd Schlink gasgliad o ffuglen fer o'r enw Liebesfluchten ("Ehediadau Cariad").
Yn 2008, cyfarwyddodd Stephen Daldry addasiad ffilm Saesneg o Der Vorleser fel The Reader. Yn 2010, cyhoeddwyd ei hanes gwleidyddol ffeithiol, Guilt About the Past, gan Beautiful Books Limited.
Ar hyn o bryd mae Schlink yn rhannu ei amser rhwng Efrog Newydd a Berlin. Mae'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.