![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/49/Beto_O%2527Rourke_April_2019.jpg/640px-Beto_O%2527Rourke_April_2019.jpg&w=640&q=50)
Beto O'Rourke
gwleidydd Americanaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Robert Francis "Beto" O'Rourke (ganed 26 Medi 1972) yn wleidydd Americanaidd a wasanaethodd ardal gyngresol 16eg Texas am dri thymor yn Nhŷ Cynrychiolwr yr Unol Daleithiau. Dewiswyd O'Rourke i gynrychioli'r blaid Ddemocrataidd fel enwebiad i'r etholiad seneddol yn Texas yn 2018, a collodd o drwch blewyn i Ted Cruz, cynrychiolydd y Gweriniaethwyr .[1]
Beto O'Rourke | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Robert Francis O'Rourke ![]() 26 Medi 1972 ![]() El Paso, Texas ![]() |
Man preswyl | Sunset Heights ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, gweithredwr mewn busnes, cerddor, person busnes, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Tad | Pat O'Rourke ![]() |
Mam | Melissa O'Rourke ![]() |
Priod | Amy O'Rourke ![]() |
Gwefan | https://betoorourke.com/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed O'Rourke i deulu gwleidyddol lleol yn El Paso, Texas, agraddiodd yn Woodberry Forest School a Phrifysgol Columbia. Tra'n astudio yn Columbia, cychwynnodd O'Rourke yrfa fer mewn cerddoriaeth, fel gitarydd bas yn y band 'Foss'. Ar ôl iddo raddio yn y coleg, dychwelodd i El Paso a dechrau gyrfa mewn busnes. Yn 2005, cafodd ei ethol i Gyngor Dinas El Paso, gan wasanaethu tan 2011. Etholwyd O'Rourke i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2012 ar ôl trechu'r Democrat Silvestre Reyes a oedd wedi treulio wyth tymor yno.[2]