Bildungsroman
genre mewn llenyddiaeth a ffilm / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn beirniadaeth lenyddol, genre llenyddol sy'n canolbwyntio ar dwf seicolegol a moesol y prif gymeriad o blentyndod i fod yn oedolyn yw'r Bildungsroman (ynganiad Almaeneg: [ˈbɪldʊŋs.ʁoˌmaːn]. Deillio'r enw o'r geiriau Almaeneg Bildung ("addysg") a Roman ("nofel"). Bathwyd y gair yn 1819 gan yr ieithegydd Johann Karl Simon Morgenstern.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | novel genre |
---|---|
Math | ffilm glasoed, nofel |
Prif bwnc | dod i oed |
Cau
Rhennir y Bildungsroman yn aml yn dair rhan ac yn dilyn y cynllun "blynyddoedd ieuenctid – blynyddoedd crwydro – blynyddoedd meistr". Mae hyn i'w weld yn nofel Wilhelm Meisters Lehrjahre ("Prentisiaeth Wilhelm Meister", 1795–6) gan Johann Wolfgang von Goethe a ystyrir y nofel yn brototeip o'r Bildungsroman Almaenig.
Ceir nifer o amrywiadau ac is-genres o Bildungsroman, gan gynnwys
- yr Entwicklungsroman ("nofel ddatblygiad"), sy'n canolbwyntio ar dyfiant cyffredinol yn hytrach na hunanddiwylliad
- yr Erziehungsroman ("nofel addysg"), sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant ac addysg ffurfio
- y Künstlerroman ("nofel artist"), sy'n ymwneud â datblygiad artist