![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4f/G.C._18_March_1915_Gallipoli_Campaign_Article.jpg/640px-G.C._18_March_1915_Gallipoli_Campaign_Article.jpg&w=640&q=50)
Brwydr Gallipoli
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol oedd Brwydr Gallipoli, weithiau Ymgyrch y Dardanelles, (Twrceg: Çanakkale Savaşları) a ymladdwyd ar benrhyn Gallipoli (Twrci) rhwng 25 Ebrill 1915 hyd 9 Ionawr 1916. Glaniodd byddin y cyngheiriaid, oedd yn cynnwys carfan gref o'r Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig milwyr o Awstralia a Seland Newydd, ynghyd â milwyr Ffrengig, ar y penrhyn gyda'r bwriad o gipio Istanbul, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid. Byddai hyn wedi agor y culfor sy'n arwain i'r Môr Du, a'i geneud yn bosibl i yrru adnoddau rhyfel i gynorthwyo Rwsia.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 9 Ionawr 1916 ![]() |
Rhan o | y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol ![]() |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 1915 ![]() |
Daeth i ben | 9 Ionawr 1916 ![]() |
Lleoliad | Gallipoli ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Gallipoli1915.jpg/640px-Gallipoli1915.jpg)
Wedi misoedd o ymladd caled yn erbyn byddin yr Ymerodraeth Otomanaidd, gorfodwyd y cyngheiriad i encilio yn Ionawr 1916, wedi diddoef colledion mawr. Daeth arweinydd y Twrciaid, Mustafa Kemal Atatürk, yn arwr cenedlaethol, a gwelir y frwydr fel dechrau'r broses a arweiniodd at annibyniaeth Twrci wyth mlynedd yn ddiweddarach dan Atatürk.