Mae canser y fron yn datblygu o feinwe’r fron.[1] Gall arwyddion o fodolaeth canser y fron gynnwys lwmp yn y fron, newid yn siâp y fron, crychu yn y croen, hylif yn dod o’r deth, neu groen coch, cennog.[2] I rai sydd â’r clefyd wedi lledaenu cryn dipyn, gellir cael poen yn yr asgwrn, chwyddiant yn y nodau lymff, bod yn fyr o wynt neu groen melyn.[3]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Canser y fron
Thumb
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathcanser thorasig, clefyd y fron, neoplasm y fron, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Mae’r ffactorau sy’n pery risg o ddatblygu canser y fron yn cynnwys bod yn fenywaidd, gordew, diffyg ymarfer corff, yfed alcohol, therapi adfer hormonau yn ystod y menopos, ymbelydredd ïoneiddio, cychwyn misglwyf yn ifanc, cael plant yn hwyrach neu beidio cael plant o gwbl, bod yn hŷn a hanes teuluol. [4] Mae 5-10% o achosion oherwydd genynnau wedi eu hetifeddu gan rieni, gan gynnwys BRCA1 a BRCA2 ymhlith eraill. Mae canser y fron yn datblygu’n gan amlaf yng nghelloedd leinin y dwythellau llaeth a’r llabed sy’n cyflenwi’r dwythellau â llaeth.  Mae canser sy’n datblygu o’r dwythellau yn cael eu galw’n carsinoma dwythellol, tra gelwir y rhai sy’n datblygu yn y llabed yn garsinoma’r llabed. Ceir hefyd 18 is-fath o ganser y fron. Mae rhai math o ganser, fel carsinoma dwythellol in situ, yn datblygu o friwiau cyn-ymledol. Ceir diagnosis o ganser y fron drwy fiopsi o’r lwmp o dan sylw. Pan gaiff y diagnosis ei wneud, gwneir rhagor o brofion i weld os yw’r canser wedi lledaenu ymhellach na’r fron, a pha driniaethau y gallai’r canser ymateb iddo.

Mae pwyso a mesur budd yn erbyn niwed wrth gynnal profion sgrinio canser y fron yn ddadleuol. Dywedodd adolygiad Cochrane 2013 ei bod yn aneglur os yw sgrinio mamograffeg yn gwneud mwy o les neu niwed.[5] Cafwyd darganfyddiad mewn adolygiad gan dasglu gwasanaethau ataliol yr UDA yn 2009 bod budd i’r rhai oedd yn rhwng 40 a 70 oed,[6] ac mae’r mudiad yn argymell sgrinio bob dwy flynedd i ferched rhwng 50 a 74 oed.[7] Gellir defnyddio’r meddyginiaethau tamoxifen a raloxifene i geisio atal canser y fron i’r rheiny sydd â risg uchel o’i ddatblygu.  Mae codi’r ddwy fron hefyd yn ddull o atal ei ddatblygiad mewn merched sydd â risg uchel. II’r rheiny sydd wedi cael derbyn cadarnhad bod canser ganddynt, gellir defnyddio sawl triniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth, therapi ymbelydredd, cemotherapi, therapi hormonau a therapi targedig. Mae’r math o lawdriniaeth yn eang iawn, o lawdriniaeth i geisio cadw’r fron i fastectomi.[8][9] Gall adlunio’r bronnau ddigwydd yn ystod y llawdriniaeth neu yn y dyfodol. II’r rhai lle mae’r canser wedi ymledu i rannau eraill y corf, mae triniaeth yn anelu at wella ansawdd bywyd a chyfforddusrwydd.

Mae effaith canser y fron yn ddibynnol ar y math o ganser, ehangder y clefyd, ac oed y person. Mae niferoedd y rhai sy’n goroesi yn uchel yn y byd sydd wedi datblygu,[10] mae rhwng 80% a 90% o’r rheiny yn Lloegr neu’r UDA yn byw am o leiaf 5 mlynedd.[11][12] IYn y gwledydd datblygedig mae’r niferoedd sy’n goroesi yn salach. Canser y fron yw’r canser mwyaf blaenllaw mewn merched ar draws y byd, ac mae’n cyfrif am 25% o’r holl achosion.[13] Yn 2012 cafwyd 1.68 miliwn o achosion a 522, 000 o farwolaethau. Mae’n fwy cyffredin yn y gwledydd sydd wedi datblygu, ac mae’n 100 gwaith mwy cyffredin mewn merched na dynion.[14]

Arwyddion a symptomau

Thumb
Canser y fron yn dangos nadwd gwrthdroi, lwmp a bannwl chroen.

Yn nodweddiadol, y symptom cyntaf ac amlycaf o ganser y fron yw lwmp sy’n teimlo’n wahanol i weddill feinwe’r fron. Mae dros 80% o achosion canser y fron yn cael eu darganfod pan mae’r ddynes yn dod o hyd i lwmp. Mae’r canser cynharaf yn cael eu darganfod gan famogram. Gall lympiau yn y nodau lymff sydd wedi eu lleoli yn y gesail hefyd ddynodi canser y fron.

Yn ychwanegol i lwmp, gall arwyddion o ganser y fron gynnwys meinwe yn fwy trwchus na meinwe arall y fron, un fron yn fwy neu’n is na’r llall, teth yn newid lleoliad neu siâp neu’n troi at i mewn, y croen yn rhychu neu dimpling, brechu ar y deth neu o’i amgylch, arllwysiad o’r deth/tethi, poen parhaol mewn rhan o’r fron neu gesail, a chwyddiant o dan y gesail neu o gwmpas pont yr ysgwydd. Mae poen, (mastodynia) yn annibynadwy fel dull o gadarnhau presenoldeb canser neu beidio, ond gall ddynodi problemau eraill yn ymwneud ag iechyd y frest.

Mae canser llidiol y fron yn fath penodol o ganser y fron sy’n achosi cryn sialens wrth gael diagnosis. Gall symptomau fod yn debyg i lid y fron a gall gynnwys cosi, poen, chwyddiant, y deth yn troi at i mewn, cynhesrwydd a chochni dros y fron, ynghyd â theimlad fel croen oren i’r croen a elwir yn peau d’orange. Gan nad yw canser llidiol y fron yn amlygu ei hun â lwmp gellir can oedi cyn cael diagnosis.

Symptom cymhleth arall o ganser y fron yw clefyd Paget y fron. Mae’r syndrom hwn yn ymddangos fel newidiadau yn debyg i ecsema ar y croen, er enghraifft cochni, newid lliw neu groen y deth yn plicio. Fel mae clefyd Paget yn y fron yn datblygu, gall symptomau gynnwys merwindod, cosi, mwy o sensitifrwydd, llosgi a phoen. Gall arllwysiad ddod o’r deth hefyd. Mae oddeutu hanner y merched sydd wedi cael diagnosis fod ganddynt glefyd Paget y fron gyda lwmp yn eu bron.

Mewn achosion prin, gall beth sy’n ymddangos fel fibroadenoma (lwmp caled nad yw’n ganser a ellir ei symud) fod yn diwmor ffylodes. Mae tiwmor ffylodes yn cael eu creu tu mewn i’r stroma (meinwe cysylltiol) y fron ac yn cynnwys meinwe chwarennol yn ogystal â chysylltiol. Nid yw tiwmor ffylodes yn cael eu graddio yn ffurf arferol; maent yn cael eu dosbarthu yn sgil eu hedrychiad o dan ficrosgop yn un ai anfalaen, ar y ffin neu falaen.[15]

Weithiau bydd canser y fron yn ymddangos fel clefyd metastatig, hynny yw canser sydd wedi ymledu o’r organ wreiddiol. Mae’r symptomau a gaiff eu hachosi gan ganser y fron sy’n metastatig yn dibynnu ar leoliad y metasteiddio. Lleoliadau cyffredin lle mae canser yn metasteiddio yw yn yr asgwrn, iau, ysgyfaint ac ymennydd.[16] Weithiau gall colli pwysau heb reswm, neu wres neu oerfel fod yn arwydd o ganser y fron. Gall poenau yn yr esgyrn neu gymalau fod yn arwydd o ganser y fron metastatig, yn ogystal â chlefyd melyn a symptomau niwrolegol. Mae’r symptomau yma yn cael eu galw’n amhenodol, mae hyn yn golygu y gallant fod yn arwydd o sawl salwch arall.[17]

Nid yw’r rhan fwyaf o symptomau afiechydon y fron, gan gynnwys y rhan fwyaf o lympiau, yn arwyddocaol o ganser y fron. Er enghraifft, mae llai na 20% o lympiau â chanser,[18] ac mai afiechydon diniwed fel mastitis a fibroadenoma y fron sy’n rhesymau mwy cyffredin dros symptomau afiechydon y fron. Er hynny, dylai’r claf a’i meddygon gymryd symptom newydd o ddifrif oherwydd bod posibilrwydd o ganser isorweddol fod yn fron ar unrhyw oed bron.[19]

Ffactorau sy’n achosi risg

Gellir rhannu’r ffactorau sy’n achosi risg yn ddau gategori:

  • Risg a ellir ei newid (y pethau a phobl eu newid eu hunain, fel yfed alcohol,) a
  • Risg sefydlog (y pethau na ellir eu newid, fel oed a rhyw)

Y prif risgiau ar gyfer canser y fron yw bod yn fenywaidd ac yn hŷn.[20] Mae’r risgiau posibl arall yn cynnwys geneteg,[21] diffyg geni plant neu fwydo o’r fron,[22] lefelau uwch o rai hormonau penodol,[23][24] patrymau dietegol penodol, a gordewdra. Mae astudiaethau diweddar yn nodi llygredd golau yn gallu bod yn factor sy’n achosi risg i ddatblygu canser.[25]

Ffordd o fyw

Mae’n ymddangos fod tybaco yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron, mae’r risg yn uwch po fwyaf yr ysmygwyd a chynharaf y dechreuwyd ysmygu. I ysmygwyr tymor hir mae’r risk yn cynyddu 35% i 50%. Mae diffyg ymarfer corff yn gysylltiedig â 10% o’r achosion.[26] Mae eistedd am gyfnodau hir yn gysylltiedig â chyfradd marwolaeth uwch o ganser y fron. Nid yw’r risg yn cael ei negyddu gan ymarfer corff rheolaidd, ond mae’n gostwng.[27]

Mae cysylltiad rhwng y defnydd o ddulliau atal cenhedlu hormonaidd a datblygiad canser y fron cyn y menopos,[28][29] ond mae’n ddadleuol os yw defnyddio pilsen atal cenhedlu yn achosi canser y fron cyn menopos. Os oes cysylltiad, mae’r effaith absoliwt yn fychan.[30][31] Yn ychwanegol, nid yw’r glir os yw’r cysylltiad yn bodoli gyda’r atal cenhedlu hormonaidd fwy newydd. Yn rheiny gyda mwtaniad yn y genyn sy’n dangos rhagduedd canser y fron BRCA1 a BRCA2, neu sydd â hanes teuluol o ganser y fron, nid yw’r defnydd o’r bilsen atal cenhedlu modern i’w weld yn effeithio’r risg o ddatblygu canser y fron.[32][33]

Nid yw’r cysylltiad rhwng bwydo o’r fron a chanser y fron wedi cael ei gadarnhau’n glir; mae rhai astudiaethau wedi dangos bod cefnogaeth i gysylltiad tra nad yw eraill.[34] Yn yr 1980au, roedd damcaniaeth erthylu-canser y fron yn dweud bod erthylu trwy orfodaeth yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron.[35] Roedd y ddamcaniaeth hon yn destun ymchwiliad gwyddonol eang, a daethant i’r casgliad nad oes gan golli plentyn nag erthylu cysylltiad â chynnydd yn y risg o ddatblygu canser y fron.[36]

Cysylltir sawl factor dietegol â’r risg o ddatblygu canser y fron. Mae’r ffactorau dietegol a ellir gynyddu’r risg yn cynnwys diet sy’n uchel mewn braster, yfed alcohol, a lefel colestoral uchel oherwydd gôr dewdra.[37][38][39][40] Dietary iodine deficiency may also play a role.[41] Gall diffyg iodine dietegol hefyd greu effaith. Mae’r dystiolaeth am ffibr yn aneglur. Mewn adolygiad 2015 darganfuwyd mai canlyniadau cymysg oedd astudiaethau a oedd yn ceisio cysylltu bwyta ffibr â chanser y fron. Yn 2016 gwelwyd cyswllt petrus rhwng ychydig o ffibr yn ystod llencyndod.[42]

Mae ffactorau eraill sy’n peri risg yn cynnwys ymbelydredd a gwaith shift.[43] Cystylltir saw sawl cemegyn hefyd, gan gynnwys biffenylau polyclorinedig, hydrocarbonau aromatig polysyclig, toddyddion organig. Er mai isel yw dos yr ymbelydredd mewn mamogram, fe amcangyfrir y buasai sgrinio blynyddol o 40 oed i 80 oed yn achosi 225 achos o ganser y fron angheuol ym mhob miliwn o ferched a sgriniwyd.[44][45]

Geneteg

Gall rhagduedd geneteg chwarae rhan fechan yn y rhan fwyaf o achosion.[46] Er hynny, yn gyffredinol credir mai geneteg sy’n bennaf gyfrifol am 5-10% o achosion.[47] Mae merched sydd a’u mamau wedi cal diagnosis cyn iddynt fod yn 50 â chynnydd risg o 1.7, a rheiny a’u mamau wedi cael diagnosis ar ôl 50 oed â chynnydd risg o 1.4.[48] . I’r rheiny sydd â dim, neu un neu ddau o aelodau’r teulu wedi eu heffeithio, mae’r risg o ddatblygu canser y fron cyn 80 oed yn 7.8%, 13.3% a 21.1%, gyda marwolaeth yn dilyn oherwydd yr afiechyd yn 2.3%, 4.2%, a 7.6% yn dilyn y drefn uchod.[49] I’r rheiny sydd ag aelod agosaf o’r teulu gyda’r afiechyd mae’r risg o ddatblygu canser y fron rhwng 40 a 50 oed yn ddwbl ffigwr y cyhoedd y boblogaeth yn gyffredinol.[50]

Mewn llai 5% o achosion, mae geneteg yn chwarae rhan fwy allweddol wrth greu hereditary breast-ovarian cancer syndrom. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cario mwtaniad geneteg BRCA1 a BRCA2. Mae’r mwtaniad hyn yn cyfri am 90% o’r holl ddylanwad geneteg gyda risg o ganser y fron yn 60-80% yn y rhai a effeithiwyd. Mae’r mwtaniad eraill yn cynnwys syndrom Li-Fraumeni, PTEN (syndrome Cowden), a STK11 (syndrome Peutz-Jeghers), CHEK2, ATM, BRIP1, a PALB2. Yn 2012, dywedodd ymchwilwyr bod pedwar math o geneteg benodol i ganser y fron, ac ym mhob math bod hallmark newidiadau yn arwain at sawl canser.[51]

Diagnosis

Mae’r rhan fwyaf o fathau canser y fron yn hawdd i’w gadarnhau drwy ddadansoddi sampl o dan ficrosgop - neu fiopsi - o’r rhan o’r fron sydd wedi ei heffeithio. Hefyd, mae mathau o ganser y fron sydd angen eu dadansoddi mewn labordai arbenigol.

Mae’r ddau ddull mwyaf cyffredin o sgrinio, archwiliad corfforol o’r bronnau gan ddarparwr gofal iechyd a mamogram, yn gallu rhoi bras syniad am debygolrwydd mai canser yw lwmp. Gall hefyd ddarganfod nam eraill, fel syst syml.[52] Pan mae’r archwiliadau hyn yn amhendant, gall darparwr gofal iechyd dynnu sampl o’r hylif yn y lwmp er mwyn cael archwiliad dan ficrosgop (gelwir y dull yma’n allsugniad nodwydd fain neu allsugniad nodwydd fain a seitoleg - FNAC) i gynorthwyo gyda chadarnhau'r diagnosis. Gall allsugniad nodwydd fain gael ei gynnal yn swyddfa’r darparwr gofal iechyd neu mewn clinig yn defnyddio anesthetig lleol os oes angen. Os oes hylif clir yn y lwmp mae’n annhebygol iawn iddo fod yn ganser, ond gall hylif gwaedlyd gael ei yrru i’w archwilio o dan ficrosgop am gelloedd canser. Gyda’i gilydd, gellir defnyddio archwiliad corfforol o’r bronnau, mamogram, a FNAC i gael diagnosis â chryn gywirdeb.

Opsiynau eraill ar gyfer biopsy yw biopsi craidd neu biopsi drwy allsugniad, dull yw hwn lle tynnir darn o’r lwmp yn y fron; neu biopsi trwy dorri,[53] lle tynnir y lwmp cyfan. Yn aml, mae archwiliad corfforol gan ddarparwr gofal iechyd, mamogram, a phrofion pellach a fuasai o bosib yn cael eu cynnal o dan amgylchiadau arbennig, (fel cynnal delweddau drwy uwchsain neu MRI) yn ddigon i sicrhau biopsi trwy dorri fel y dull pendant o roi diagnosis a’r dull gyntaf o driniaeth.

Dulliau atal

Ffordd o fyw

Mae’n bosib y gall merched leihau’r risg o ddatblygu canser y fron drwy gadw pwysau iach, yfed llai o alcohol, bod yn gorfforol egnïol a bwydo’u plant o’r fron.  Gall y newidiadau yma atal 38% o achosion canser y fron yn yr UDA, 42% yn DU, 27% ym Mrasil ac 20% yn Tsieina. Mae buddiannau ymarfer cymedrol fel cerdded yn sydyn i’w weld ym mhob carfan oed gan gynnwys merched cyn menopos.[54] Mae lefel uchel o weithgarwch corfforol yn lleihau'r risg o ganser y fron tua 14%.[55] Gall strategaethau sy’n annog gweithgaredd corfforol yn rheolaidd a gostwng gordewdra fod â buddiannau eraill, fel gostwng clefyd cardiofasgwlaidd a chlefyd siwgr.

Mae bwyta llawer o ffrwythau sitrws hefyd wedi ei gysylltu â gostyngiad o 10% mewn canser y fron.[56]

Mae’n ymddangos bod marine omega-3 polyunsaturated fatty acid yn lleihau’r risg. Gall bwyta llawer o fwydydd soia hefyd ostwng y risg.[57]

Llawdriniaeth ragflaenol

Gall tynnu’r ddwy fron cyn i unrhyw ganser gael ei ddarganfod, neu cyn i unrhyw lwmp drwgdybus neu unrhyw friw arall ymddangos (dull a elwir yn mastectomi proffylactig y ddwy ochr) gael ei ystyried gan bobl sydd â mwtaniad BRAC1 a BRCA2, sydd yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu canser y fron yn y pendraw.[58][59] Nid yw’r dystiolaeth yn ddigon cryf i gefnogi’r dull i neb ond y rhai sydd â’r risg uchaf.[60] Mae profion BRCA yn cael ei argymell i’r rheiny sydd â’r risg uchaf oherwydd hanes teuluol ar ôl cynghori geneteg. Nid yw’r cael ei argymell yn gyffredinol.[61] Mae hyn oherwydd bod sawl ffurf o newid yn y genynnau BRCA, ac mae hyn yn ymestyn o amryffurfedd diniwed i batrymau geneteg beryglus. Mae effaith y rhan fwyaf o’r newidiadau a ellir eu hadnabod yn y genynnau yn ansicr. Mae profi mewn rhywun sydd â risg cyffredin yn debygol o roi un o’r canlyniadau amhenodol, diwerth hyn. Mae’n aneglur os yw tynnu’r ail fron i’r rhai sydd â chanser yn un yn fuddiol.

Meddyginiaethau

Mae selective estrogen receptor modulators (fel tamoxifen) yn lleihau risg canser y fron ond yn cynyddu risg datblygu thromboembolism a chanser endometriaidd. Ni does unrhyw newid cyffredinol yn y risg o farwolaeth.[62][63] Felly nid ydynt yn cael eu hargymell i atal canser y fron i ferched sydd â risg cyffredin ond gellir ei argymell i’r rheiny sydd â risg uchel.[64] Mae budd o ostwng canser y fron yn parhau am beth bynnag bum mlynedd ar ôl gorffen cwrs o driniaeth gyda’r meddyginiaethau hyn.[65]

Sgrinio

Thumb
Uned sgrinio canser y fron symudol yn Seland Newydd

Mae sgrinio ar gyfer canser y fron yn cyfeirio at ferched, sydd fel arall yn iach, mewn ymgais i geisio cael diagnosis yn gynt oherwydd y tyb fod darganfyddiad cynnar yn gwella canlyniadau. Mae sawl prawf sgrinio wedi cael eu defnyddio gan gynnwys archwiliad clinigol a hunan archwiliad o’r fron, mamograffi, sgrinio geneteg, uwchsain and sganiwr mri.

Mae archwiliad clinigol neu hunan archwiliad o’r fron yn golygu teimlo’r fron am lympiau neu unrhyw nam arall. Darparwr gofal iechyd sy’n cynnal archwiliad clinigol tra mae hunan archwiliad yn cael ei gynnal gan y person ei hun.[66] Nid yw tystiolaeth yn cefnogi effeithiolrwydd y naill archwiliad na’r llall, oherwydd erbyn i lwmp fod digon mawr iddo gael ei ddarganfod mae’n debyg iddo fod yn tyfu ers sawl blwyddyn ac felly cyn bo hir yn ddigon mawr i gael ei ddarganfod heb archwiliad.[67][68] Mae sgrinio mamograffeg ar gyfer darganfod canser y fron yn defnyddio pelydr-x i archwilio’r fron am unrhyw fàs neu lympiau annodweddiadol. Yn ystod y sgrinio mae’r fron yn cael ei chywasgu ac mae technegydd yn tynnu llun o sawl ongl. Mae mamogram cyffredinol yn tynnu llun y fron i gyd, tra mae mammogram diagnostig yn ffocysu ar lwmp penodol neu ardal sy’n peri pryder.[69]

Mae sawl corff cenedlaethol yn argymell sgrinio ar gyfer canser y fron. I’r fenyw gyffredin, mae’r Tasglu Gwasanaethau Ataliol yr UDA yn awgrymu mamograffi bob dwy flynedd i ferched rhwng 50 a 74 oed, mae Cyngor Ewrop yn argymell mamogramau i ferched rhwng 50 a 69 oed bob 2 flynedd,[70] , ac yng Nghanada mae sgrinio yn cael ei argymell rhwng 50 a 74 oed bob 2 i 3 blynedd. Mae adroddiadau’r tasgluoedd hyn yn nodi, yn ychwanegol i lawdriniaeth ddiangen a phoen meddwl, mae risgiau cynnal mamogramau yn amlach yn cynnwys risg bach ond arwyddocaol yn y risg o ganser y fron oherwydd ymbelydredd.[71]

Mae cydweithrediad Cochrane (2013) yn nodi nad yw’r dystiolaeth o’r safon orau yn dangos gostyngiad mewn canser penodol, na gostyngiad mewn cyfradd marwolaethau drwy sgrinio mamogram. Pan ychwanegir treialon llai trwyadl tuag at y dadansoddiad mae lleihad o 0.05% yn ffigyrau marwolaeth oherwydd cancer y fron (lleihad o 1 mewn bob 2000 marwolaeth oherwydd canser y fron dros 10 mlynedd neu ostyngiad cymharol o 15% oherwydd ganser y fron). Canlyniad sgrinio dros 10 mlynedd yw bod cynnydd o 30% mewn canrannau gor-ddiagnosis a gor-driniaeth (3 i 4 mewn bob 1000) a chaiff mwy na hanner o leiaf un prawf camarweiniol.[72] Canlyniad hyn yw’r farn nad yw’n glir os yw sgrinio canser y fron yn gwneud mwy o dda neu ddrwg. Meddai Cochrane, oherwydd gwelliannau diweddar yn nhriniaeth canser y fron, a’r risg o dderbyn cadarnhad anghywir sy’n arwain at driniaeth ddiangen, ‘nid yw felly’n ymddangos iddo fod yn fuddiol i fynychu profion sgrinio’ i unrhyw oed.[73] Ni wyddid os yw MRI fel dull sgrinio yn achosi rhagor o niwed neu fuddiannau with ei gymharu â mamograffi gyffredin.[74]

Mae canser y fron gan amlaf yn cael ei drin gyda llawdriniaeth, a all wedyn gael ei ddilyn gyda chemotherapi neu therapi ymbelydredd, neu’r ddau. Dull aml disgybledig sy’n fwyaf dymunol. Mae cancer sy’n hormone-receptor positive yn aml yn cael eu trin â hormone-blocking therapy dros gyfnod o sawl blwyddyn. Gall antibodïau monoclonal, neu driniaethau immune-modulating arall gael eu defnyddio mewn rhai achosion o ganser metastatig a chamau eraill o ganser y fron.

Llawdriniaeth

Thumb
Y gist ar ôl mastectomi y fron ar y dde

Mae llawdriniaeth yn golygu tynnu’r tiwmor yn gorfforol, yn debygol gydag ychydig o’r meinwe sydd o’i amgylch. Gall un neu ragor o’r nodau lymff gael biopsi yn ystod y llawdriniaeth; yn amlach mae samplu’r nod lymff yn cael ei gynnal drwy fiopsi nodau lymff sentinel.

Mae llawdriniaeth gyffredin yn cynnwys:

  •   Mastectomi- Tynnu bron gyfan
  •   Quadranectomi - Tynnu chwarter y fron
  •   Lympectcomi – Tynnu darn bach o’r fron

Unwaith mae’r tiwmor wedi cael ei dynnu, os yw’r claf yn dymuno, gall llawdriniaeth adlunio bron sy’n fath o lawdriniaeth blastig, gael ei performed i wella edrychiad esthetig yr ardal. Neu, mae merched yn defnyddio bron brosthetig i edrych fel bron o dan ddillad, neu’n dewis brest fflat. Gellir defnyddio teth brosthetig unrhyw dro yn dilyn y mastectomi.

Prognosis

Mae prognosis yn cael ei roi fel arfer ar y tebygolrwydd o oresgyn heb ddilyniad (PFS) neu oresgyn hen afiechyd (DFS). Mae’r rhagfynegiadau hyn wedi eu seilio ar gleifion eraill â chanser y fron â dosbarthiad tebyg. Amcangyfrif yw prognosis, oherwydd bydd cleifion a’r un fath o ddosbarthiad yn goroesi am amser gwahanol, ac nid yw dosbarthiad bob tro yn hollol union. Mae goroesiad yn cael ei calculate drwy ddefnyddio’r nifer o fisoedd (neu flynyddoedd) ar gyfartaledd mae 50% o gleifion yn goroesi, neu’r cyfartaledd o’r nifer o gleifion sy’n dal yn fyw ar ôl 1, 5, 15 ac 20 mlynedd. Mae prognosis yn bwysig ar gyfer penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth achos mae cleifion sydd â phrognosis da yn cael cynnig triniaethau sy’n llai goresgynnol, fel lympectomi ac ymbelydredd neu therapi hormon, tra mae cleifion â phrognosis sâl yn cael cynnig triniaethau mwy gormesol, fel mastectomi mwy eang ac un neu ragor o gyffuriau cemotherapi.

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.