Categori:Amgylchedd
tudalen categori Wikimedia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term amgylchedd yn cyfeirio at y pethau byw a difywyd i gyd sy'n bodoli yn naturiol ar y ddaear neu ar ran ohoni (e.e. yr amgylchedd naturiol mewn gwlad). Mae'r term yn cynnwys dwy gydran allweddol:
- Unedau cyflawn tirweddol sy'n gweithio fel systemau naturiol heb ymyriad sylweddol gan fodau dynol, gan gynnwys planhigion, anifeiliaid, creigiau ac ati, yn ogystal â'r ffenomenau naturiol sy'n digwydd y tu mewn i'w ffiniau.
- Adnoddau naturiol cyffredinol a ffenomenau corfforol sydd heb ffiniau clir, megis awyr, dŵr a hinsawdd, yn ogystal ag ynni, ymbelydredd, gwefr trydanol a magnetedd, nad ydynt yn tarddu o weithgaredd dynol.