![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Sebastiano_Ricci_002.jpg/640px-Sebastiano_Ricci_002.jpg&w=640&q=50)
Celf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Campweithiau gweledol sydd yn gynnyrch medr dynol yw celf, yn llawn celfyddyd. Fel rheol, defnyddir y talfyriad "celf", neu weithiau celfyddydau cain, i gyfeirio at y celfyddydau gweledol, hynny yw paentio, darlunio, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, a phensaernïaeth. Mae'r rhain yn gangen o'r ystod eang o weithgareddau a elwir y celfyddydau, sydd hefyd yn crybwyll y celfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a'r theatr, a llenyddiaeth, gan gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | pwnc gradd, cysyniad amheus, gan rai, disgyblaeth academaidd, maes gwaith, sector economaidd, matter ![]() |
---|---|
Math | gweithgaredd hamdden ![]() |
Rhan o | diwylliant, y celfyddydau ![]() |
Cynnyrch | gwaith celf ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/80/Michelangelo%27s_David_-_right_view_2.jpg/640px-Michelangelo%27s_David_-_right_view_2.jpg)
Yn ogystal â'r amryw brosesau, technegau, a ffurfiau ar greu celf, mae celf yn bwnc testun disgyblaethau megis beirniadaeth celf ac hanes celfyddyd. Estheteg yw'r maes athronyddol sydd yn archwilio natur a diffiniad celf a chysyniadau tebyg, megis gallu creadigol a dehongli celfyddydweithiau.