Châlons-en-Champagne
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned a dinas yn Ffrainc yw Châlons-en-Champagne. Mae'n ganolfan weinyddol (préfecture) département Marne a région Champagne-Ardenne, er nad ydyw ond chwarter maint Reims, dinas fwyaf y rhanbarth. Mae'n gorwedd ger lan Afon Marne yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, tua hanner ffordd rhwng Paris i'r gorllewin a Strasbourg i'r dwyrain. Poblogaeth: 47,339 (1999).
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 43,877 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Benoist Apparu ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Châlons-en-Champagne, canton of Châlons-en-Champagne-4, Marne ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 26.05 km² ![]() |
Uwch y môr | 83 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Marne ![]() |
Yn ffinio gyda | L'Épine, Compertrix, Fagnières, Saint-Martin-sur-le-Pré, Saint-Memmie, Sarry ![]() |
Cyfesurynnau | 48.9567°N 4.3644°E ![]() |
Cod post | 51000 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Châlons-en-Champagne ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Benoist Apparu ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Notredamedevaux-chevet.jpg/640px-Notredamedevaux-chevet.jpg)
Yn cael ei hadnabod cynt fel Châlons-sur-Marne, ailenwyd y ddinas yn swyddogol yn 1998. Ni ddylir ei chymysgu â Chalon-sur-Saône, Bwrgwyn.
Tybir mai Châlons oedd safle brwydr Maes Catalaunia (Brwydr Chalons), lle atalwyd ymdaith Attila i gyfeiriad y gorllewin yn 451 OC.