From Wikipedia, the free encyclopedia
Christmas yw'r seithfed albwm stiwdio gan y canwr Canadaidd Michael Bublé. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar Hydref 21, 2011 yn Iwerddon, 24 Hydref 2011 yn y Deyrnas Unedig a 25 Hydref 2011 yn yr Unol Daleithiau America. Ar yr wythnos yn gorffen ar Rhagfyr 10, 2011, daeth yr albwm i Rhif 1 ar y siart gwerthiannau albwm 200 Billboard, dyma'r drydedd albwm gan Bublé i fod yn Rhif 1, yn dilyn Call Me Irresponsible yn 2007 a Crazy Love yn 2009. Roedd yr albwm yn Rhif 1 am bump wythnos.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | albwm |
---|---|
Rhan o | Michael Bublé's albums in chronological order |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Hydref 2011 |
Label recordio | 143 Records, Reprise Records |
Genre | jazz |
Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America |
Hyd | 3,104 eiliad |
Cynhyrchydd/wyr | David Foster |
Dyma ail albwm Nadoligaidd Bublé, ar ôl iddo cyhoeddi albwm pum trac Let It Snow yn 2003. Roedd rhai o'r caneon o Let It Snow wedi cael eu hail-recordio ar gyfer Christmas, yn gwneud Christmas yn albwm llawn o ganeuon Nadoligaidd. Ar gyfer yr albwm, roedd Bublé wedi gweithio gydag artistiad eraill er mwyn recordio deuawdau. Mae ei ddeuawd o White Christmas gyda'r canwr gwledig Shania Twain yn seiliedig ar drefniant blaenoral gan y bandThe Drifters.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.