Club Nacional de Football
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Clwb Cenedlaethol Pêl-droed (sbaeneg: Club Nacional de Football) yn glwb pêl-droed o Montevideo, Wrwgwái, sy'n chwarae yn Primera División Uruguay (Uwch Gynghrair Wrwgwái). Ymunodd y clwb â'r gynghrair yn 1901, ac ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn 1902. Fe'i ffurfwyd ym 1899, pan unwyd clybiau Montevideo Football Club (Clwb Pêl-droed Montevideo) ac Wrwgwái Athletic Club (Clwb Athletau Wrwgwái). Mae'r clwb yn chwarae yn stadiwm Gran Parque Central.
Enw llawn | Club Nacional de Football | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | tricolores (tri-lliwiog), bolsos | ||
Sefydlwyd | 1899 | ||
Maes | Estadio Gran Parque Central (Stadiwm Fawr Parc Ganolog), Montevideo | ||
Cadeirydd | José Fuentes | ||
Rheolwr | Álvaro Gutiérrez | ||
Cynghrair | Primera División Wrwgwáia (Uwch Gynghrair Wrwgwái) | ||
2016 | 1af | ||
|
Y clwb oedd sylfaen Tîm Cenedlaethol Wrwgwái a enillodd y Gemau Olympaidd yr Haf yn 1924 a 1928, a Chwpan y Byd cyntaf erioed ym 1930.
Maent wedi ennill pedwar deg chwech pencampwriaethau cenedlaethol, ac un ar hugain o gystadlaethau rhyngwladol swyddogol, gan gynnwys tri Cwpan Rhyng-gyfandirol (cystadleuaeth rhwng pencampwyr De America ac Ewrop), tri Cwpan Libertadores , dwy Gwpan Rhyng-americanaidd ac un Recopa De America.