pentref ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Tawe Uchaf, Powys, Cymru, yw Craig-y-nos.[1] Saif yn ardal Brycheiniog ar y draffordd A4067 tua 2 filltir i'r gogledd o Abercraf yng Nghwm Tawe Uchaf.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tawe Uchaf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8247°N 3.6819°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Mae afon Tawe yn llifo heibio i'r pentref sy'n gorwedd yn y cwm rhwng bryniau Carreg Goch a Bryn Bugeiliaid, yn y Fforest Fawr. Ar bwys y pentref ceir ogofâu enwog Dan yr Ogof. Ar y mynydd-dir fymryn tu allan i'r pentref ceir llinelliad o feini hirion y Saith Maen sy'n dyddio o Oes yr Efydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
Mae Craig-y-nos yn adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel cartref y gantores opera byd-enwog Adelina Patti (1843-1919) "Brenhines y Gân". Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Graig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America. Cafodd y ffug-gastell ei adeiladau yn 1842 mewn efelychiad o gestyll barwnaidd yr Alban. Daeth yn enwog am ei erddi gwych. Pan ymddeolodd dan bwysau o'r byd opera cyfyngodd ei pherfformiadau i gyngherddau preifat yn y theatr fach a gododd ar dir Craig-y-nos.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.