Cwpan y Byd Pêl-droed
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwpan y Byd FIFA, sydd yn cael ei hadnabod fel Cwpan y Byd, yw prif gystadleuaeth rhyngwladol y byd pêl-droed i ddynion. Rheolir y gystadleuaeth gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA), corff llywodraethol y byd pêl-droed ac fe'i cynhelir bob pedair blynedd ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1930 heblaw am 1942 a 1946 pan gafodd y bencampwriaeth ei gohirio oherwydd Yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth pêl-droed i dimau cenedlaethol, rhyngwladol, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | pencampwriaeth y byd, cystadleuaeth bêl-droed |
Label brodorol | FIFA World Cup |
Dechrau/Sefydlu | 1930 |
Enw brodorol | FIFA World Cup |
Gwefan | https://www.fifa.com/tournaments/mens/worldcup |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae 17 o wledydd gwahanol wedi cynnal Cwpan y Byd gyda'r Almaen Brasil, Yr Eidal, Ffrainc a Mecsico wedi cynnal y gystadleuaeth ar ddau achlysur tra bod Yr Ariannin, Chile, De Affrica, Lloegr, Rwsia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Unol Daleithiau America ac Wrwgwai wedi cynnal y gystadleuaeth unwaith a chynhaliodd De Corea a Siapan y gystadleuaeth ar y cyd.
Mae wyth o wledydd gwahanol wedi ennill y bencampwriaeth. Brasil sydd â'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl ennill y bencampwriaeth ar bum achlysur a hefyd Brasil yw'r unig wlad sydd wedi ymddangos ym mhob cystadleuaeth ers 1930. Mae'r Almaen a'r Eidal wedi ennill y gystadleuaeth ar bedwar achlysur, Yr Ariannin ac Wrwgwái ddwywaith gyda Ffrainc, Lloegr a Sbaen wedi ennill un bencampwriaeth yr un.