Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn Llangollen ar 2 Medi, 1906. Nod y gymdeithas oedd i gasglu cerddoriaeth werin a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, mudiad gwirfoddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1906 |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.canugwerin.com/en/index.php |
Mae Canu Gwerin, sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar ei gwefan ac ambell erthygl Saesneg yn ei chylchgrawn..