Cyrdistan (talaith Iranaidd)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o 30 talaith Iran sy'n gorwedd yn nhiriogaeth draddodiadol Cyrdistan, gwlad y Cyrdiaid, yw Talaith Cyrdistan neu Kordestan (Perseg: استان کردستان, Ostâne Kordestân; Cyrdeg: پارێزگه ی کوردستان, Parêzgeha Kurdistanê). Mae'n rhan o'r Cyrdistan Iranaidd hefyd, sy'n diriogaeth fwy sylweddol. Mae gan dalaith Cyrdistan arwynebedd o 28,817 km², sy'n cyftateb i tua wythfed ran yn unig o'r Cyrdistan Iranaidd ei hun. Fe'i lleolir yng ngorllewin Iran ac mae'n ffinio ar Irac i'r gorllewin, talaith Gorllewin Azerbaijan i'r gogledd, Zanjan i'r gogledd-ddwyrain a Kermanshah i'r de. Prifddinas y dalaith yw Sanandaj (Cyrdeg: Sinne). Fe'i rhennir yn siroedd a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd neu drefi, sef Marivan, Baneh, Saqqez, Sarvabaad, Qorveh, Bijar, Kamyaran a Diwandarreh.
Math | Taleithiau Iran |
---|---|
Prifddinas | Sanandaj |
Poblogaeth | 1,603,011, 1,493,645, 1,440,156 |
Cylchfa amser | UTC+03:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Iran |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 29,137 km² |
Yn ffinio gyda | Sulaymaniyah Governorate, West Azerbaijan Province, Talaith Hamadan |
Cyfesurynnau | 35.7278°N 46.9669°E |
IR-12 | |
Canran y diwaith | 11.6 canran |