Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 oedd y 57ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Baku, Aserbaijan, ar ôl i Ell a Nikki ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Running Scared". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd Loreen gyda'i chân "Euphoria" felly disgwylir y bydd Sweden yn cynnal y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013.
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 | |
---|---|
"Light Your Fire" ("Cyneuwch Eich Tân") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 22 Mai 2012 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 24 Mai 2012 |
Rownd terfynol | 26 Mai 2012 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Neuadd Grisial Baku, Baku, Aserbaijan[1] |
Cyflwynyddion | Leyla Aliyeva, Eldar Gasimov a Nargiz Birk-Petersen |
Perfformiad agoriadol | Ell & Nikki: "Running Scared" |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Armenia Gwlad Pwyl |
Canlyniadau | |
◀2011 Cystadleuaeth Cân Eurovision 2013▶ |
Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.[2] Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol â'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,[3] yn cynnwys Montenegro, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers 2009. Penderfynodd Armenia a Gwlad Pwyl beidio â chymryd rhan.