Cytundeb München
cytundeb unochrog yn trosglwyddo ardaloedd Almaeneg eu hiaith i'r Almaen Natsiaidd Hitler oddi ar Tsiecoslofacia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arwyddwyd Cytundeb München yn ninas München yn ne yr Almaen yn oriau cynnar 30 Medi 1938 (ond wedi ei dyddio 29 Medi), rhwng Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen a'i gyngrheiriad Benito Mussolini, arweinydd yr Eidal, a Neville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | cession, cytundeb, cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 29 Medi 1938 |
Rhan o | Dyhuddiad |
Iaith | Tsieceg |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Medi 1939 |
Lleoliad | Führerbau |
Prif bwnc | Adolf Hitler, Édouard Daladier, Benito Mussolini, Neville Chamberlain |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Hitler yn hawlio tiriogaeth y Sudetenland, ardal lle roedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig, oddi ar Tsiecoslofacia. Gwrthwynebid hyn yn gryf gan lywodraeth Tsiecoslofacia, a datganodd yr Undeb Sofietaidd eu bod yn barod i roi cefnogaeth filwrol i'r Tsieciaid, ond dim ond os byddai Prydain a Ffrainc yn ymuno â hwy. Yng Nghynhadledd München, cytunodd Prydain a Ffrainc i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro.