D. J. Williams
llenor a chenedlaetholwr Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd David John Williams (26 Mehefin 1885 – 4 Ionawr 1970), neu D. J. Williams neu weithiau "D. J. Abergwaun", yn llenor ac yn genedlaetholwr. Roedd yn gymeriad cryf, penderfynol a dygn, a gwnaeth gyfraniad pwysig i lên a diwylliant ei wlad; cyfeiriwyd ato fel "Y Cawr o Rydcymerau" ac ysgrifennodd Dafydd Iwan ddwy gân amdano: Y Wên na Phyla Amser a Cân D. J.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
D. J. Williams | |
---|---|
D. J. Williams, tua 1936. | |
Ganwyd | 26 Mehefin 1885 ![]() Llansawel ![]() |
Bu farw | 4 Ionawr 1970 ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Cysylltir gyda | Flora Forster, Saunders Lewis ![]() |
Priod | Siân Williams ![]() |
Cau
Gyda Saunders Lewis a Lewis Valentine, ar 8 Medi 1936, llosgodd yr ysgol fomio ym Mhenyberth a dedfrydwyd ef yn yr 'Old Bailey' i 9 mis o garchar.