Dadleuon etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae dadleuon etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 yn cyfeirio at gyfres o dair dadl a ddarlledwyd yn fyw rhwng arweinwyr y tair brif blaid gwleidyddol oedd yn sefyll yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r tro cyntaf i ddadl fyw o'r fath gael ei chynnal mewn ymgyrch etholiadol yn y DU. Yn y drafodaeth rhwng yr arweinwyr, bu'r Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur Gordon Brown yn dadlau gydag arweinydd yr Wrthblaid ac arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron yn ogystal â Nick Clegg, arweinydd trydedd blaid fwyad y DU, y Democratiaid Rhyddfrydol. Ni chaniatawyd bod arweinwyr y pleidiau y gwledydd datganoledig yn cael cymryd rhan, mewn hyd yn oed un o rhain.
Enghraifft o'r canlynol | dadl yr weinyddion |
---|---|
Dyddiad | 2010 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhyrchir y tair dadl rhwng yr arweinwyr, a fydd yn cael eu darlledu heb doriad am 90 munud yr un, gan ITV, BSkyB a'r BBC. Alastair Stewart, Adam Boulton a David Dimbleby fydd yn llywyddu'r trafodaethau. Yn ystod pob dadl bydd pob arweinydd yn gorfod ateb cwestiynau na fydd yn hysbys iddynt, ond a fydd yn cael eu dethol gan y darlledwyr. Caiff y cwestiynau eu gofyn gan naill ai'r gynulleidfa neu drwy e-bost. Ar gyfer pob cwestiwn, bydd pob arweinydd yn ateb yn gyntaf yn eu tro am funud, ac yna ceir cyfnod o drafodaeth agored am hyd at 4 munud.