Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Llên Wcráin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ceir gwreiddiau llên Wcráin mewn llên lafar y bobloedd baganaidd, llwythau Slafaidd cynnar, a drigodd yn rhanbarth hanesyddol Rws yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, yn y tiroedd ar hyd afonydd Volga yn y gogledd a Dnieper yn y de. Dygwyd y traddodiad ysgrifenedig i'r amlwg yn sgil cristioneiddio'r Slafiaid yn niwedd y 10g, trwy gyfrwng yr iaith Hen Slafoneg Eglwysig. Blodeuai llenyddiaeth grefyddol, ac i raddau llai seciwlar, yn Rws Kiefaidd o'r 11g i'r 13g; pregethau, chwedlau a chroniclau, a bucheddau'r saint oedd y prif genres.
Dinistriwyd rhan fawr o lên Wcráin yn ystod yr helyntion a therfysgoedd a ddilynai cwymp Rws Kiefaidd: goresgyniadau'r Mongolwyr, cyrchoedd Tatariaid y Crimea, y cynnwrf crefyddol yn yr 16g, a'r Distryw yn ail hanner yr 17g. Adfywiai bywyd llenyddol yn y cyfnod Cosacaidd, yn yr ieithoedd Rwseg a Phwyleg yn bennaf, ond eto byddai newidiadau hanesyddol yn achosi colled nifer fawr o weithiau yn sgil dirywiad diwylliannol ar draws Ymerodraeth Rwsia wedi teyrnasiad Pedr Fawr. Câi'r iaith Wcreineg ysgrifenedig ei safoni ar wahân i'r ieithoedd Slafonaidd eraill yn y 18g ar sail iaith y werin, ac erbyn dechrau'r 19g bu digon o hyder gan lenorion Wcreinaidd i ysgrifennu drwy gyfrwng eu mamiaith, a dyna felly oedd oes gychwynnol llenyddiaeth Wcreineg. Er gwaetha'r ymddeffroad cenedlaethol hwn, byddai nifer o ffigurau llenyddol yn gwadu'r hen etifeddiaeth ac yn lladd ar dueddiadau polemig yr awduron o ddiwedd yr 16g a dechrau'r 17g. O ganlyniad, dim ond ychydig o gopïau sydd yn goroesi o'r gweithiau hyn, er mai cyfnod y wasg argraffu ydoedd.
Mae llenyddiaeth Wcreineg y 19g yn adlewyrchu twf cyflym cenedlaetholdeb Wcreinaidd dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Ystyrir Eneida (1798), ffugarwrgerdd fwrlésg gan Ivan Kotliarevsky (1769–1838), yn fan cychwyn llenyddiaeth Wcreineg. Bardd, dramodydd a chlasurydd oedd Kotliarevsky, a ddefnyddiodd yr arwrgerdd Ladin Aenid gan Fyrsil yn fodel ar gyfer parodi o Gosaciaid Zaporizhzhia. Y gwaith rhyddiaith cyntaf i'w gyhoeddi yn Wcreineg oedd y nofel Marusya (1834) gan Hryhorii Kvitka-Osnovianenko (1778–1843).