![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/Diego_Vel%25C3%25A1zquez_Autorretrato_45_x_38_cm_-_Colecci%25C3%25B3n_Real_Academia_de_Bellas_Artes_de_San_Carlos_-_Museo_de_Bellas_Artes_de_Valencia.jpg/640px-Diego_Vel%25C3%25A1zquez_Autorretrato_45_x_38_cm_-_Colecci%25C3%25B3n_Real_Academia_de_Bellas_Artes_de_San_Carlos_-_Museo_de_Bellas_Artes_de_Valencia.jpg&w=640&q=50)
Diego Velázquez
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Sbaen oedd Diego Rodríguez de Silva y Velázquez (6 Mehefin 1599 – 6 Awst 1660). Roedd yn un o arlunwyr pwysicaf ei gyfnod; ei gampwaith yw Las Meninas (1656). Bu'n ddylanwad pwysig ar arlunwyr diweddarach megis Pablo Picasso a Salvador Dalí. Ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae: Gwener yn y Drych (Sbaeneg: La Venus del espejo) a Chwedl Arachne (Catalaneg: Les filadores).
Diego Velázquez | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Diego Rodríguez de Silva y Velázquez ![]() 6 Mehefin 1599 ![]() Sevilla ![]() |
Bedyddiwyd | 6 Mehefin 1599 ![]() |
Bu farw | 6 Awst 1660 ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd, artist ![]() |
Swydd | arlunydd llys, Great Lodging Master of the Palace ![]() |
Adnabyddus am | The Triumph of Bacchus, Las Meninas, Apollo in the Forge of Vulcan, Christ in the House of Martha and Mary, The Surrender of Breda, The Waterseller of Seville ![]() |
Arddull | portread (paentiad), paentiad mytholegol, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, portread, architectural painting, celf genre, celf tirlun, noethlun, figure, animal art, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd ![]() |
Mudiad | Baróc ![]() |
Tad | João Rodrigues da Silva ![]() |
Mam | Jerónima Velázquez ![]() |
Priod | Juana Pacheco ![]() |
Plant | Francisca de Silva Velázquez y Pacheco ![]() |
Gwobr/au | Urdd Santiago ![]() |
Ganed ef yn Sevilla, Andalucía, Sbaen. Roedd yn fab i Juan Rodríguez de Silva, cyfreithiwr o dras Iddewid-Potiwgeaidd. Astudiodd arlunwaith dan Francisco de Herrera, yna pan oedd tua 12 oed aeth yn brentis i Francisco Pacheco yn Sevilla, lle bu am bum mlynedd. Priododd Juana Pacheco yn 1618; cawsant ddwy ferch.
Aeth i Madrid yn Ebrill 1622, gyda llythyr yn ei gyflwyno i Don Juan de Fonseca, caplan y brenin. Bu farw Rodrigo de Villandrando, prif arlunydd y llys brenhinol, yn Rhagfyr 1622. Cafodd Velázquez ei swydd wedi iddo wneud llun o'r brenin Felipe IV, a chafodd arian i symud ei deulu i Madrid. Bu'n byw yno am y gweddill o'i fywyd, heblaw am flwyddyn o hanner yn byw yn yr Eidal o 1629. Cafodd hyn gryn ddylanwad ar ei arddull. Bu ar ymweliad a'r Eidal eto yn 1649, gan ddychwelyd yn 1651.