Dinas annibynnol (UDA)
math o ddinas o fewn UDA / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn Unol Daleithiau America, mae dinas annibynnol yn ddinas nad yw o fewn tiriogaeth sir ac a ystyrir yn brif adran weinyddol o'i thalaith.
Ffeithiau sydyn Math, Gwladwriaeth ...
Math | dinas annibynnol, dinas yn yr Unol Daleithiau, cyfwerth â sir |
---|---|
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Cau
Mae yna 41 o ddinasoedd annibynnol yn yr Unol Daleithiau. Mae 38 ohonynt yn nhalaith Virginia. Y tair dinas annibynnol y tu allan i Virginia yw Baltimore yn nhalaith Maryland; St. Louis yn nhalaith Missouri; a Carson City yn nhalaith Nevada. Y mwyaf poblog ohonynt yw Baltimore.