Ardal hanesyddol a dosbarth gweinyddol yw Dir a leolir yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan. Ers 1996 mae'r hen ddosbarth wedi cael ei rannu yn ddau, def Dir Uchaf a Dir Isaf. Hyd at y 1960au roedd Dir yn dywysogaeth fechan gyda chryn raddau o annibyniaeth. Dir yw'r brif dref a'r hen brifddinas.
- Gweler hefyd Dir (gwahaniaethu).
Gorwedd Dir yn rhanbarth hanesyddol Malakand am y ffin ag Affganistan i'r gorllewin, rhwng Chitral i'r gogledd, Swat i'r dwyrain a Mohmand i'r de.
Mae Bwlch Malakand yn cysylltu Dir a Swat. Yn y gogledd ceir Bwlch Lowarai, bwlch uchel dros 10,500 troedfedd sy'n cynnig y brif lwybr i mewn i Chitral.
Yn ddiweddar cipwyd rhan helaeth Dir gan y Taliban Pacistanaidd a'u cynghreiriaid. Gwelodd Dir Isaf ymladd trwm yn Ebrill a Mai 2009, fel rhan o'r hyn a elwir yn Rhyfel Gogledd Orllewin Pakistan, rhwng y llywodraeth ganolog a'r gwrthryfelwyr Islamig, a bu'n rhaid i filoedd lawer o bobl ffoi o'u cartrefi.
Dolenni allanol
- Oriel: Pobl yn ffoi o Dir Isaf Archifwyd 2009-05-01 yn y Peiriant Wayback, DawnNews.com (Pacistan), 27.04.2009
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.